Cefais ddiagnosis o ganser yr oesoffagws ym mis Hydref 2022. Ar y pryd roeddwn i'n gweithio fel Nyrs Glinigol Arbenigol mewn Dermatoleg Pediatrig. Roeddwn wedi bod yn cael problemau cynyddol gyda diffyg traul am ychydig fisoedd, ac yna dechreuais gael trafferth llyncu. Roedd y diagnosis yn sioc enfawr, ond cefais gynnig llwybr triniaeth iachaol yn cynnwys cemoradiotherapi ac yna llawdriniaeth fawr ym mis Ebrill 2023.
Yn y cyfnod yn syth ar ôl y llawdriniaeth, datblygais haint Pseudomonas ar y frest a chefais fy rhoi ar wrthfiotigau mewnwythiennol. Mae haint ar y frest yn gymhlethdod ôl-lawfeddygol cymharol gyffredin. Cefais fynd adref 16 diwrnod ar ôl y llawdriniaeth, ond ar ôl dau ddiwrnod dechreuais chwydu ac roedd gen i dwymyn oedd yn gwaethygu. Pum niwrnod ar ôl cael fy rhyddhau o’r ysbyty, er gwaethaf cymryd gwrthgyfogyddion, doeddwn i ddim yn gallu goddef unrhyw beth trwy’r geg ac roeddwn i'n teimlo mor sâl doeddwn ddim hyd yn oed yn gallu aros nes bod y meddyg teulu neu'r nyrs ar gael i roi cyngor. Aeth fy ngŵr â fi i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys am 5am.
Tybiwyd i ddechrau bod gen i haint arall ar y frest ond, gan fy mod yn gwella ar ôl llawdriniaeth fawr, roedd popeth yn fwy cymhleth ac roedd angen hylifau mewnwythiennol arnaf wrth gael fy nerbyn i’r ysbyty. Roeddwn i wedi cael rhywfaint o ddolur rhydd ond dim byd o bwys – y chwydu a'r dwymyn oedd fy mhrif broblem. Cefais fy rhoi ar wrthfiotigau eto a chynyddwyd y dos, heb fawr o effaith. Dim ond ar ôl cael parasetamol mewnwythiennol yr oedd fy nhymheredd yn sefydlogi ac nid oedd sgriniad sepsis yn dangos dim byd o bwys. Rydw i’n cofio mynegi pryder wrth fy llawfeddyg bod y parasetamol mewnwythiennol yn cuddio'r dwymyn a bod – yr hyn a oedd yn haint tybiedig ar y frest – ddim yn ymateb i'r gwrthfiotigau. Bedair awr ar ôl i mi gael meddyginiaeth i leihau’r dwymyn, byddai fy nhymheredd yn codi eto ar unwaith. Cefais fy nhynnu oddi ar y parasetamol mewnwythiennol ac ailadroddwyd y sgriniad sepsis. Ar ddiwrnod deg o'r ail dderbyniad hwn cafodd fy llawfeddyg alwad gan yr adran microbioleg i ddweud bod fy nghanlyniadau’n dangos bod C. diff yn bresennol. Rydw i’n cofio ei bod hi'n brynhawn Sul a daeth hi ataf i i roi gwybod i mi beth oedd wedi'i ddarganfod. Ar y pryd roeddwn i mewn ward pedwar gwely ac roedd un o doiledau'r ward yn aros i gael ei drwsio. Doedd dim ciwbiclau ar gael felly doedd fy ynysu ddim yn opsiwn. Penderfynwyd y dylwn gael fy anfon adref y prynhawn hwnnw ar Vancomycin drwy’r geg. Newidiwyd fy apwyntiad clinig yn ddiweddarach yn yr wythnos i ymgynghoriad dros y ffôn.
Ar ôl i mi fynd adref, roedden ni'n sicrhau nad oedd gweddill fy nheulu'n defnyddio'r ystafell ymolchi roeddwn i'n ei defnyddio ac rydw i’n cofio bod yn wyliadwrus ynglŷn â diheintio'r handlenni, defnyddio tywelion llaw ar wahân a chymryd mesurau eraill i amddiffyn fy ngŵr a'm plant. Fe wnaethon ni hefyd atal fy rhieni oedrannus rhag ymweld nes i mi wella'n llwyr.
Dwi'n cofio cael fy synnu gan y diagnosis, gan ei fod yn haint bacteriol yr oeddwn i'n gyfarwydd ag ef ar ôl 39 mlynedd o nyrsio. Fel arfer mae arogl nodedig iawn iddo nad oeddwn i wedi sylwi arno, ond darganfyddais yn ddiweddarach ei bod hi'n anoddach adnabod C. diff ar ôl cemotherapi.
Roedd y C. diff wedi gwneud i mi deimlo mor sâl gartref, cyn i mi gael fy nerbyn i’r ysbyty eto, yn llawer gwaeth nag yr oeddwn wedi teimlo gyda'r cemotherapi.
Yn ffodus, roedd fy nhriniaeth yn llwyddiannus, ond fe’m synnodd pa mor sâl a gwan roeddwn i’n teimlo gyda’r C. diff ac rydw i’n teimlo ei fod yn bendant wedi oedi fy adferiad o’r llawdriniaeth.
Rydw i wedi bod angen ychydig o gyrsiau o wrthfiotigau ers y profiad hwn ac rydw i bob amser wedi bod yn bryderus ynghylch y risg o gael C. diff eto. Rydw i’n bwyta iogwrt ac yn yfed diodydd sy’n cynnwys phrofiotigau i geisio amddiffyn fy hun – dydw i ddim yn siŵr a yw'n helpu ond rydw i’n falch o ddweud nad wyf wedi cael dim symptomau C. diff ers hynny.