Neidio i'r prif gynnwy

Egwyddorion Amserlennu GIG Cymru

Comisiynwyd Egwyddorion Amserlennu GIG Cymru gan y Bwrdd Gwerth a Chynaliadwyedd er mwyn sefydlu dull cyson, yn seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer y broses amserlennu nyrsio ar draws GIG Cymru. Wedi'u datblygu ar y cyd gan Swyddfa'r Prif Swyddog Nyrsio (Llywodraeth Cymru), Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan o fewn Perfformiad a Gwella GIG Cymru, a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, mae'r egwyddorion yn ymateb i amrywiad mewn arferion amserlennu lleol ac yn darparu fframwaith cenedlaethol i gefnogi staffio diogel, lleoli’r gweithlu mewn modd teg, llywodraethu effeithiol, a chynaliadwyedd ariannol. Eu bwriad yw hyrwyddo mwy o gysondeb, tryloywder a sicrwydd wrth amserlennu, gan sicrhau bod cynllunio'r gweithlu yn unol ag anghenion cleifion, barn broffesiynol a gofynion statudol wrth gefnogi llesiant staff a darparu gofal o ansawdd uchel.                                                                                                                                            

Mae gweithredu Egwyddorion Amserlennu bellach ar y gweill ar draws GIG Cymru.                          

Mae Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan yn cefnogi Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i wreiddio'r egwyddorion mewn polisïau ac arferion amserlennu, gan hyrwyddo dull cenedlaethol cyson o leoli’r gweithlu yn ddiogel, yn deg ac yn effeithiol. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys cefnogi gweithredu, rhannu arferion gorau, a datblygu trefniadau sicrwydd cenedlaethol, metrigau safonol, a galluoedd e-Amserlennu er mwyn galluogi monitro, meincnodi a gwelliant parhaus cyson ledled Cymru. Gyda'i gilydd, bydd y datblygiadau hyn yn helpu i gryfhau prosesau diogelwch cleifion, gwella profiad staff, a chefnogi gwaith cynllunio’r gweithlu mwy cynaliadwy.

Gallwch adolygu canllawiau Egwyddorion Amserlennu, yma.