Sefydlwyd Rwydwaith Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yn 2019, ac mae'n dod â rhanddeiliaid ynghyd i wella diogelwch a safon y gofal a'r gwasanaethau ledled Cymru.
Wrth wraidd y rhwydwaith mae'r nod o wella canlyniadau a phrofiad i bob mam, baban a'u teuluoedd gan wybod bod rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yn hanfodol i leihau problemau iechyd yn y tymor hir.