Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Gweithredu Clinigol Rhiwmatoleg

Ffurfiwyd y Rhwydwaith Gweithredu Clinigol (CIN) Rhewmatoleg ym mis Ionawr 2025. Rydym yn dîm o staff GIG Cymru, a arweinir gan Arweinydd Clinigol Rhewmatoleg, sy’n gweithio gyda’n gilydd i wella cyflawniad gweithredol nodau strategol cenedlaethol.  

Nod y CIN Rhewmatoleg yw galluogi cyflenwi’r Datganiad Ansawdd Cyhyrysgerbydol (MSK) a'r Fframwaith Cyhyrysgerbydol.

Bydd y CIN Rhewmatoleg yn datblygu Llwybrau Delfrydol Cenedlaethol a Manylebau Gwasanaeth ar gyfer Rhewmatoleg yng Nghymru. Cyflawnir hyn drwy ddata amser real, arferion gorau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chydweithio. 

I gael manylion llawn am nodau, cwmpas ac adrodd ar y CIN, gweler Cylch Gorchwyl Rhwydwaith Gweithredu Clinigol Rhewmatoleg.

Aelodau’r Rhwydwaith Gweithredu Clinigol Rhewmatoleg

Mae Aelodau’r Rhwydwaith Gweithredu Clinigol Rhewmatoleg yn bobl sy’n gweithio yn y Gwasanaethau Rhewmatoleg neu gyda’r Gwasanaethau Rhewmatoleg ar draws Cymru. Maent yn cynnwys: 

  • Arweinwyr Clinigol Rhewmatoleg o bob bwrdd iechyd  
  • Arweinydd Clinigol CIN Rhewmatoleg 
  • Arweinydd Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Rhewmatoleg ar gyfer Cymru
  • Arweinydd Clinigol Rhewmatoleg Pediatrig ar gyfer Cymru  
  • Cadeirydd y Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigol (STC)  
  • Cynrychiolydd Grŵp Cynghori Arbenigol Rhewmatoleg 
  • Staff Perfformiad a Gwella GIG Cymru  

Dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am aelodau'r CIN.