Cymorth a gwybodaeth i bobl sy'n byw gyda diabetes math 1
Mae byw gyda diabetes math 1 yn golygu nad yw eich corff yn cynhyrchu digon o inswlin, felly mae rheoli eich lefelau glwcos yn dod yn rhan o fywyd bob dydd.
Mae’n gallu teimlo’n faich ar y dechrau, ond gyda’r wybodaeth, yr adnoddau a’r gefnogaeth gywir mae llawer o bobl yn dod o hyd i rythm sy’n addas iddyn nhw.
Gall eich tîm gofal iechyd eich helpu i ddysgu sut mae bwyd, gweithgarwch, straen a salwch yn effeithio ar eich lefelau, a gweithio gyda chi i addasu eich trefn inswlin fel ei fod yn gweddu eich anghenion.
Mae profiad pawb gyda diabetes math 1 ychydig yn wahanol, ac yn aml mae'n cymryd amser i ganfod beth sy'n fwyaf addas i chi.
Mae digon o ganllawiau ar gael p'un ai eich bod chi eisiau awgrymiadau ar wirio'ch lefelau glwcos, deall gwahanol fathau o inswlin, bwyta'n dda, cadw'n heini, neu ofalu am eich llesiant cyffredinol.
P’un ai eich bod wedi byw gyda diabetes math 1 ers blynyddoedd neu’n dal i ymgyfarwyddo ag ef, dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
Mae adnoddau, offer a rhaglenni addysg dibynadwy ar gael sy’n gallu eich helpu i deimlo'n wybodus, yn hyderus ac i'ch cefnogi wrth i chi reoli diabetes o ddydd i ddydd.
Mae diabetes math 1 yn digwydd pan fo’r corff yn rhoi’r gorau i gynhyrchu digon o inswlin.
Gall ddatblygu ar unrhyw oedran - yn ystod plentyndod, yn yr arddegau, yn oedolion ifanc, neu'n ddiweddarach mewn bywyd - er bod symptomau'n aml yn ymddangos dros ddyddiau i wythnosau.
Mae llawer o bobl yn sylwi ar bethau fel teimlo’n sychedig, angen pasio wrin yn amlach, teimlo’n anarferol o flinedig, neu golli pwysau’n anfwriadol.
Os bydd eich tîm gofal iechyd yn amau diabetes math 1, byddan nhw’n cynnal prawf gwaed ar y bys, a byddwch yn cael eich cyfeirio at arbenigwr diabetes ar yr un diwrnod.
Gall derbyn diagnosis deimlo’n llethol, ond bydd gennych lawer o gefnogaeth a chymorth, yn enwedig yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl diagnosis.
Ar ôl diagnosis, bydd eich tîm diabetes yn cymryd amser i esbonio beth mae diabetes math 1 yn ei olygu i chi a sut i'w reoli o ddydd i ddydd.
Byddan nhw’n rhoi arweiniad i chi ynghylch dechrau triniaeth inswlin, dewis opsiynau monitro glwcos, a deall sut mae bwyd, gweithgarwch, salwch a straen yn gallu effeithio ar eich lefelau.
Byddwch hefyd yn cael dolenni i wefannau dibynadwy i roi rhagor o wybodaeth.
Os ydych chi'n byw gyda diabetes math 1, mae'n bosibl darganfod a yw perthnasau agos fel plant neu frodyr a chwiorydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 1 cyn iddo ddod i’r amlwg. Mae'n bosibl gwneud profion gwaed i chwilio am farcwyr (gwrthgyrff) sy'n awgrymu bod person mewn perygl. Gellir gwneud hyn trwy ymweld â'r gwefannau canlynol (ELSA i blant, TIDRA i oedolion). Os bydd rhywun mewn perygl o ddatblygu diabetes (os oes ganddyn nhw wrthgyrff), bydd y tîm gofal iechyd lleol yn cael eu hysbysu ac yn cysylltu.
https://www.elsadiabetes.nhs.uk/ (Saesneg yn unig)
https://t1dra.bristol.ac.uk/ (Saesneg yn unig)