Cyflwyniad
Mae trigolion ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn wynebu anhawster cyson wrth dderbyn gofal brys prydlon, gydag oedi wrth drosglwyddo o gerbydau ambiwlans ac amseroedd aros hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn digwydd yn fwy aml.
Erbyn mis Ebrill 2025, ein nod yw grymuso 15 ward i roi cleifion yn y sefyllfa orau i gael eu rhyddhau a lleihau hyd cyfartalog yr arosiadau mewn ysbyty.
Dulliau
Mae ein fframwaith 'Optimeiddio’ wedi ei ddatblygu i wella gofal cleifion o’u derbyn i’w rhyddhau gan ddefnyddio offer, modelau a galluogwyr digidol, fel rhan o'r rhaglen 6 Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng.
Mae'r fenter hon, sy'n cynnwys staff iechyd, staff gofal cymdeithasol a staff y trydydd sector, yn defnyddio damcaniaeth rheoli newid Kotter a gwerthusiadau cyson i sicrhau ei bod yn cael ei gweithredu’n llwyddiannus.
Profwyd y fframwaith mewn wardiau gofal heb ei drefnu dros bedair wythnos, gan sicrhau bod ei gydrannau'n cael eu gweithredu'n effeithiol ac yn gwella taith y cleifion.
Roedd hyn yn cynnwys rowndiau bwrdd amlddisgyblaethol rheolaidd, gwneud y mesurau’n gyson â safonau ansawdd cenedlaethol, cynyddu ymgysylltiad staff, a phwysleisio gofal sy'n canolbwyntio ar y claf i wella’r broses o gynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion a darparu gwasanaethau.
Mesurau a ddefnyddiwyd:
- Cydymffurfio â’r Dyddiad Rhyddhau Disgwyliedig
- % o gleifion gyda llwybr wedi'i gofnodi ar gyfer eu rhyddhau
- % o'r llwybrau Rhyddhau i Adfer yna Asesu (D2RA) a gofnodwyd, o’r holl lwybrau
- % o Coch i Wyrdd a gofnodwyd
- Amser rhwng derbyn claf a’u statws Optimeiddio’n Glinigol ar gyfer Rhyddhau (dyddiau ar gyfartaledd)
- Llwybr wedi’i osod adeg rhyddhau
Canlyniadau
- Adborth cadarnhaol gan staff sy'n teimlo eu bod wedi'u grymuso i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf.
- Cleifion a theuluoedd yn sôn am well gwybodaeth am y mater mewn trafodaethau a chynlluniau gofal clir.
- Gwelliannau sylweddol yn y Ward Resbiradol:
- Yr amser rhwng derbyn a rhyddhau wedi gostwng o 56.5 i 11.3 diwrnod.
- Cleifion â llwybr wedi’i gofnodi wedi cynyddu o 27% i 96%.
- Llwybrau D2RA wedi cynyddu o 20% i 74%.
- Hyd cyfartalog yr arhosiad wedi gostwng o 9.1 i 8.2 diwrnod.
Dysgu
- Dylai cyfnod cychwyn y prosiect fod wedi bod yn hirach ac yn eang gyda mwy o gyfathrebu, llwyfannau dysgu, sesiynau ymgysylltu a gweithdai i baratoi staff yn well ar gyfer newidiadau.
- Roedd y trawsnewidad yn herio dulliau traddodiadol, gan achosi amwysedd a nerfusrwydd ymhlith staff.
- Mae cynyddu gallu staff drwy hyfforddiant yn hanfodol ar gyfer lledaenu ac ehangu llwyddiannus.
Beth nesaf?
- Parhau i fentora timau amlddisgyblaethol ac ymgysylltu â chleifion/teuluoedd
- Trefnu gweithdai, sesiynau ymgysylltu, a rhaglenni 'hyfforddi'r hyfforddwr' achrededig
- Cefnogi arweinwyr clinigol a gweithredol i ymestyn y fframwaith 'Optimeiddio' ar draws arbenigeddau, gyda'r potensial i ledaenu ac ehangu’n genedlaethol.