Cyflwyniad
Daeth Deddf Ansawdd ac Ymgysylltu 2020 yn statudol ym mis Ebrill 2023 a'i nod yw gwella ansawdd a chanlyniadau gofal iechyd mewn cyfnod ôl-COVID sy’n heriol yn ariannol. Datblygwyd canllawiau statudol a gyd-gynhyrchwyd gyda sefydliadau'r GIG a rhanddeiliaid, gan arwain at greu map ffordd ar gyfer gweithredoedd y GIG.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru am ddiweddariadau rheolaidd ar gynnydd y map, gan ddatgelu’r angen am gymorth i ddeall y rhwymedigaeth i sicrhau ansawdd. Cafodd y Rhaglen Ansawdd a Diogelwch genedlaethol y dasg o gynorthwyo GIG Cymru i ymgorffori’r ddyletswydd. Bu sefydliadau'r GIG yn hunan-asesu eu cynnydd yn erbyn cerrig milltir mewn themâu fel safonau ansawdd, rheoli, gwneud penderfyniadau, adrodd, comisiynu, cynnal, hyfforddiant, cyfathrebu, arweinyddiaeth a llywodraethu, gyda'r rhan fwyaf ar y cam "Cynllunio a threfnu adnoddau."
Dulliau
Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar bedair elfen allweddol ar gyfer agwedd gyfannol, sy’n ystyried y system gyfan: ymgorffori Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal, datblygu System Rheoli Ansawdd, gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ansawdd, ac adrodd ar ansawdd.
Gyda mewnbwn gan randdeiliaid, datblygwyd safle SharePoint i rannu offer ac adnoddau ymarferol. Defnyddiwyd dulliau rheoli prosiect ystwyth, yn cynnwys camau cynllunio, dylunio, datblygu, profi, defnyddio ac adolygu i gefnogi gwaith hyblyg a chydweithredol.
Ar ôl adolygu’r arferion a’r offer presennol mewn trefniadau Asesu Effaith ar Ansawdd, aeth y Rhaglen ymlaen i ddatblygu a phrofi offeryn QIA i Gymru gyfan, gan wneud gwelliannau dro ar ôl tro yn seiliedig ar adborth.
Canlyniadau / Dysgu
- Llwyddodd y Rhaglen i droi polisi ansawdd yn ffordd o weithio ymarferol gydag adnoddau ategol ar gyfer GIG Cymru o fewn blwyddyn.
- Ffurfiwyd sawl perthynas broffesiynol gadarnhaol yn gyflym o fewn sefydliadau'r GIG.
- Cadwyd rheolaeth ddisgybledig ar y prosiect a llwyddwyd i’w ddogfennu’n dda.
- Llwyddwyd i ddylanwadu a meithrin gwaith ar draws y system gofal iechyd, gan greu "edau aur" o ansawdd.
- Roedd cydweithwyr yn gwerthfawrogi negeseuon pendant, cyson wrth roi’r ddyletswydd ar waith.
- Roedd sefydliadau'r GIG yn gwerthfawrogi cael cyfrannu at y newid o’r cam polisi i ymarfer.
- Cododd heriau yn ystod cyfnod o newid sylweddol, gan gynnwys lansio Gweithrediaeth GIG Cymru.
- Roedd gallu sefydliadau'r GIG i gyd-gynhyrchu yn gyfyngedig mewn gwirionedd er gwaethaf eu brwdfrydedd.
- Roedd adborth o arolwg gan wyth sefydliad yn gadarnhaol ynghylch gwaith paratoi’r Rhaglen ar gyfer y ddyletswydd.
Beth nesaf?
- Mae gwaith gorchwyl a gorffen wedi dod i ben ond nodwyd cyfleoedd ychwanegol i'w hystyried gan y gyfarwyddiaeth Ansawdd, Diogelwch a Gwelliant.
- Bydd tîm Perfformiad a Sicrwydd yn adolygu'r map ffordd i wneud archwiliad dwfn o weithrediad y ddyletswydd ar ôl blwyddyn.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn gwerthuso'r Ddeddf, gyda'r Rhaglen yn cyfrannu at y cam cychwynnol.
- Rhaid i gyrff y GIG a Llywodraeth Cymru baratoi adroddiadau ansawdd blynyddol.