Mae problemau traed actif ymhlith pobl â diabetes yn cael effeithiau ariannol sylweddol ar y GIG, gydag amcangyfrif o gostau wlseriad traed diabetig (DFU) a thrychiadau yn Lloegr rhwng £837 miliwn a £962 miliwn yn 2014-15. Mae cleifion DFU yn profi arosiadau hirach yn yr ysbyty, ond mae tystiolaeth yn dangos mai dim ond traean sy’n cael archwiliad traed o fewn 24 awr o gael eu derbyn.
Heb unrhyw wasanaeth podiatreg pwrpasol i gleifion mewnol, nid oedd yr ymateb yn ddigon cyflym a doedd dim digon o addysg yn cael ei roi i staff ar wardiau. Y nod yw sicrhau bod 80% o gleifion mewnol sydd â chlefyd traed diabetig actif yn cael eu hadolygu gan bodiatrydd o fewn un diwrnod gwaith o gael eu derbyn yn yr ysbyty erbyn mis Mawrth 2024.
Nododd dadansoddiad Pareto yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg mai prif achosion oedi wrth gyfeirio at wasanaethau podiatreg arbenigol oedd diffyg dealltwriaeth o'r llwybr a’r meini prawf ar gyfer cyfeirio. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, roedd rhanddeiliaid, gan gynnwys timau nyrsio a meddygol, yn rhan o waith i ddatblygu meini prawf a llwybrau cyfeirio clir ar gyfer cleifion â phroblemau traed diabetig acíwt.
Cafodd y rhain eu lledaenu drwy sesiynau ymwybyddiaeth, hyfforddiant a chyfarfodydd, gyda phosteri yn cael eu harddangos mewn mannau clinigol i atgyfnerthu'r broses. Mae hyn yn sicrhau cyfeirio prydlon yn unol â llwybr Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf (GIRFT) a chanllawiau NG19 NICE, gan leihau’r oedi wrth roi triniaethau ac o bosibl lleihau hyd arosiadau mewn ysbytai. Profwyd sesiynau a phosteri ymwybyddiaeth trwy gylchoedd PDSA.