Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad annibynnol yn tynnu sylw at ofal ymroddedig mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Cymru ond yn rhybuddio am wendidau mewn meysydd allweddol.

Mae asesiad cenedlaethol annibynnol o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru wedi nodi llawer o enghreifftiau o ofal tosturiol a ddarperir gan staff ymroddedig. Ar yr un pryd mae gwendidau hefyd y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw i wella diogelwch, cysondeb a chanlyniadau i fenywod, babanod, rhieni a theuluoedd.

Lawrlwythwch yr adroddiad.

Arweiniwyd yr Asesiad Sicrwydd Cenedlaethol Mamolaeth a Newyddenedigol gan banel arbenigol annibynnol dan gadeiryddiaeth cyn-Gomisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland.

Fe wrandawodd ar brofiadau mwy na 600 o fenywod, rhieni, teuluoedd a staff ledled Cymru.

Ymwelodd aelodau'r panel ag unedau mamolaeth a newyddenedigol ym mhob bwrdd iechyd, gan adolygu tystiolaeth yn helaeth, a dadansoddi data cenedlaethol, dogfennaeth ac adborth i ddeall cryfderau a meysydd pryder.

Dywedodd yr Athro Holland:

Mae gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol rhagorol yn rhan annatod o'n hiechyd fel cymdeithas.

“Maent yn cael effeithiau gydol oes ar iechyd corfforol, iechyd meddwl a pherthnasoedd teuluol.

“Roedd ein hasesiad yn gyflym ond yn feddylgar, gan roi babanod a’u teuluoedd yng nghanol ein holl feddwl.”

Clywodd y panel gan lawer o fenywod, rhieni a theuluoedd a ddywedodd iddynt deimlo bod staff yn gwrando arnynt, eu bod yn cael gofal, ac yn cael eu trin â charedigrwydd a pharch. Dangosodd staff ledled Cymru ymroddiad proffesiynol, empathi ac ymrwymiad yn gyson, yn aml o dan bwysau dwys.

Fodd bynnag, nododd yr asesiad hefyd feysydd allweddol lle mae diogelwch ac ansawdd yn parhau i fod yn fregus.

Er i’r rhan fwyaf o deuluoedd ddisgrifio profiadau cadarnhaol, rhannodd rhai bryderon ynghylch cyfathrebu, bod yn rhan o benderfyniadau, a chefnogaeth ôl-enedigol anghyson. Disgrifiodd nifer fach o deuluoedd a oedd wedi profi colled neu niwed sylweddol sut y gwaethygwyd eu trawma gan ymatebion amddiffynnol yn hytrach na naws agored, tosturi a dysgu.

Adroddodd staff hefyd iddynt deimlo o dan straen gormodol oherwydd cymhlethdod cynyddol anghenion gofal, diffyg amser i gynnig y dilyniant a'r gefnogaeth ôl-enedigol y maent am ei darparu tra’n gwybod bod teuluoedd eu hangen.

Tynnodd y panel sylw at anghysondeb yn y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu trefnu ac mae'n annog cydgysylltu cenedlaethol cryfach. Dylid defnyddio cofnodion digidol sydd newydd ar gael ar gyfer monitro data amser real i alluogi i bryderon diogelwch gael eu nodi’n gynharach, a dylid gweithredu llinell frysbennu genedlaethol i sicrhau ymateb cyson, 24 awr y dydd i bryderon beichiogrwydd brys.

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru wedi bod yn destun mwy na 500 o argymhellion yn sgil adolygiadau ac ymholiadau. Yn hytrach nag ychwanegu at y nifer hwn, mae'r panel wedi nodi wyth maes blaenoriaeth* y mae'n credu y byddent yn cyflawni'r gwelliannau mwyaf.

Dywedodd yr Athro Holland:

“Nid yw’r un ohonom eisiau i’r gwasanaethau hanfodol hyn fod unrhyw beth heblaw’r gorau y gallant fod.

“Mae gan Gymru’r arbenigedd, yr ymrwymiad a’r sylfeini sydd eu hangen i ddarparu gofal rhagorol i bob teulu, ym mhob cymuned.

“Ond bydd hyn yn gofyn am ewyllys ar y cyd, buddsoddi hirdymor ac atebolrwydd clir.

“Fy ngobaith i yw y byddwn yn gweld consensws trawsbleidiol ar roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar y gwasanaethau hyn, a’r gefnogaeth y mae menywod, rhieni, teuluoedd a babanod yn ei haeddu.”

Mae’r adroddiad, Y Llwybr i Ddechreuadau Mwy Diogel yng Nghymru: Asesiad Sicrwydd Cenedlaethol o Ofal a Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol, yn disgrifio'r dystiolaeth y tu ôl i'r canfyddiadau a'r camau blaenoriaeth sydd eu hangen i gryfhau gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar gyfer y dyfodol.