Mae pawb yn haeddu mynediad at y gofal iawn ar yr adeg iawn. Gallwn gefnogi pobl ag anabledd dysgu i gael y gofal iawn ar yr adeg iawn drwy sicrhau bod ein dull o ddarparu gofal iechyd yn gynhwysol ac yn ymatebol.
Mae pobl ag anabledd dysgu yn marw tua 20 mlynedd yn gynharach na'u cyfoedion yn y boblogaeth gyffredinol. Maent hefyd yn aml yn profi rhwystrau mewn gofal iechyd y gellir eu dileu neu fynd i'r afael â nhw.
Pan fydd 'addasiadau rhesymol' ar waith, maent yn galluogi dull wedi'i deilwra, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i bawb. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gynnig darpariaeth gwasanaeth deg a chyfiawn er mwyn sicrhau y gall pobl ddefnyddio gwasanaethau’n effeithiol ac yn hyderus.
Mae pob un ohonom yn wahanol, ac nid oes dau unigolyn ag anabledd dysgu'r un fath. Dyna pam rydyn ni'n gofyn i staff a gwasanaethau gofal wneud y canlynol: Gofynnwch, Addaswch, Helpwch.
Rydym wedi creu canllawiau defnyddiol i rannu syniadau, ysbrydoliaeth a newidiadau ymarferol y gallwch eu defnyddio i gefnogi pobl ag anabledd dysgu i fyw bywyd iachach a hirach ac i sicrhau canlyniadau iechyd gwell.
A wyddoch chi?
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan sefydliadau ddyletswydd gyfreithiol i wneud newidiadau i sicrhau bod gwasanaethau'r un mor hygyrch i bobl ag anabledd ag y maent i bawb arall.