Gadewch i ni gael gwared ar y tabŵ am pŵ. Rydym wedi datblygu adnoddau iechyd y coluddyn newydd i gynorthwyo pobl ag anabledd dysgu.
Mae'r adnoddau'n cynnwys gwybodaeth am bynciau allweddol sy’n cynnwys bwyta'n iach, yfed hylifau, bod yn egnïol, cymryd meddyginiaeth, rheoli rhwymedd, a sgrinio'r coluddyn.
Mae saith llyfryn Hawdd ei Ddeall ac un llyfryn cyffredinol ar gyfer pobl sy'n darparu gofal a chymorth. Gallwch lawrlwytho'r llyfrynnau drwy'r opsiynau isod.
Rydym hefyd wedi datblygu rhai adnoddau ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol i hyrwyddo iechyd y coluddyn. Mae hyn yn cynnwys graffeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, posteri a graffeg ddigidol.
Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech roi adborth, cysylltwch â: improvementcymru_ld@wales.nhs.uk