Neidio i'r prif gynnwy
Esther Munthali, Nyrs Datblygu Ymarfer, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cyflwyniad

Cafwyd adroddiadau gan ddarparwyr gofal bod hyfforddiant gan y Contractwr Bwydo Enteral yn y Cartref (HEF) yn annigonol, yn rhy fyr ac yn rhy gyffredinol, ac nad oedd yr hyfforddiant yn llwyr fodloni anghenion dysgu unigol, anghenion unigryw a newidiol cleifion nac yn deall cyfyngiadau'r lleoliad gofal. Nododd darparwyr gofal y blaenoriaethau canlynol: 

  • hyfforddiant gwell ar roi meddyginiaeth 
  • hyfforddiant wedi’i deilwra i unigolion  
  • gwelliannau i drefniadau cadw cofnodion
  • cynllunio gofal ac uwchgyfeirio 
  • hyfforddiant ar elfennau gofal newydd fel tiwbiau yn dadleoli. 

Mewn ymateb, datblygodd Nyrs Datblygu Ymarfer (PDN) raglen hyfforddi cymhwysedd gyda'r nod o gael cymeradwyaeth lawn i dri darparwr gwasanaeth blaenoriaeth o fewn 12 mis.


Dulliau

  • Gan ddefnyddio PDSA, datblygu raglen hyfforddi gyda ffocws ar gleifion ag anableddau dysgu, oherwydd bod galw mawr. 
  • Defnyddio’r fframwaith hyfforddi seiliedig ar gymhwysedd ar gyfer bwydo enteral yn y cartref gan ofalwyr cyflogedig fel y sylfaen. 
  • Hyfforddi nyrs PDN i asesu a dirprwyo tasgau’n ymwneud â’r tiwb enteral. 
  • Cydweithio â rhanddeiliaid i deilwra'r gwasanaeth ar gyfer lleoliadau penodol ac anghenion cleifion. 
  • Strwythuro hyfforddiant gyda sesiwn theori ac asesiad manikin, ac yna asesiadau cleifion. 

Canlyniadau

  • Bellach mae gan bob lleoliad â gofalwr sydd wedi cael asesiad risg becyn dadleoli tiwb wrth law. 
  • Gall gofalwyr adnabod y risg o sepsis. 
  • Mae prosesau uwchgyfeirio yn gliriach i staff, yn enwedig gyda'r defnydd o senarios gofal yn yr ystafell ddosbarth a lleoliadau gofal. 
  • Mae dogfennau’r tîm HEF wedi’u hailgynllunio yn sgil adborth gan ofalwyr, gan eu gwneud yn offeryn dysgu cadarn. 
  • Mae perthnasoedd cryf a dibynadwy gyda lleoliadau gofal yn golygu bod modd tynnu sylw a mynd i'r afael â phryderon yn gyfforddus.  

Dysgu

  • Datblygwyd llwybrau gwahanol ar gyfer asesu cymhwysedd staff profiadol a gofalwyr newydd yn sgil amharodrwydd cychwynnol. 
  • Roedd sesiynau ystafell ddosbarth yn cynnig amgylchedd heb unrhyw ymyriadau, gan feithrin ymarfer myfyriol a dysgu heb feirniadaeth. 
  • Nododd asesiadau risg y cleifion oedd yn risg uchel gan amlygu’r angen am gymorth cyfannol, yn enwedig mewn lleoliadau sy’n brin o staff. 
  • Nodwyd bod hyfforddiant tiwb blaenorol yn gyffredinol ac yn aml yn annigonol, oedd yn creu dryswch a dogfennu gwael. 
  • Canfuwyd bod dibyniaeth ar reolwyr ar gyfer datrys problemau, gan amlygu'r angen am adnoddau cyfeirio hawdd eu cael i ofalwyr. 

Beth nesaf?

  • Cydweithio â chontractwyr HEF i gael hyfforddiant cymhwysedd ac adnoddau dysgu effeithlon. 
  • Datblygu proses gasglu data effeithlon i fonitro effaith y rôl PDN ac ehangu'r tîm PDN. 
  • Creu safonau ac adnoddau i Gymru gyfan 
  • Cydweithio â dietegwyr anabledd dysgu i sicrhau pontio di-dor o bediatreg i ofal oedolion. 
  • Cydweithio gyda byrddau iechyd i gasglu data sy'n dangos effaith y rhaglen hyfforddi cymwysedd. 

Cysylltiadau

esther.munthali@wales.nhs.uk