Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrau GIG Cymru 2025

Gwobr Cynaliadwyedd Gweithlu GIG Cymru

Mae’r rhai sy’n cystadlu yn y categori hwn wedi mynd i’r afael â heriau’r gweithlu ac wedi gwneud newidiadau sy’n darparu datrysiadau parhaol ar gyfer darparu gofal diogel o ansawdd uchel.

Gwobr Dull System Gyfan GIG Cymru

Mae’r rhai sy’n cystadlu yn y categori hwn wedi dangos y gallu i weithio y tu hwnt i ffiniau sefydliadol a ffiniau’r sector i gyflawni canlyniadau sy’n bodloni anghenion newidiol gwasanaethau, nodau llesiant, a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru

Mae’r rhai sy’n cystadlu yn y categori hwn wedi gwneud gwelliannau mesuradwy o ran darparu gofal i’r bobl gywir, yn y lle cywir ac ar yr amser cywir.

Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru

Mae’r rhai sy’n cystadlu yn y categori hwn wedi dangos bod y tîm wedi ymrwymo i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel trwy feithrin diwylliant o waith tîm – o fewn y tîm, wrth ryngweithio â thimau eraill a chyda’r bobl y maent yn eu gwasanaethu.

Gwobr Gofal Diogel GIG Cymru

Mae’r rhai sy’n cystadlu yn y categori hwn wedi gwneud gwelliannau mesuradwy i system neu broses i wneud y mwyaf o ddibynadwyedd gwasanaeth, rheoli risgiau’n weithredol ac ymgorffori dysgu.

Gwobr Gofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn GIG Cymru

Mae’r rhai sy’n cystadlu yn y categori hwn wedi gwneud gwelliannau i sicrhau bod cleifion yn ganolog i benderfyniadau, gwasanaethau a’u gofal eu hunain. Mae’n bosibl bod prosiectau yn y categori hwn wedi mynd i’r afael ag anghenion amrywiol, a allai gynnwys sicrhau bod y Gymraeg mor weladwy â’r Saesneg ac nad oes rhaid i bobl sydd angen gwasanaeth Cymraeg ofyn amdano.

Gwobr Dysgu ac Ymchwil GIG Cymru

Mae’r rhai sy’n cystadlu yn y categori hwn wedi dangos ymrwymiad i gysylltu gweithgareddau dysgu a gwella â gweledigaethau strategol ar gyfer trawsnewid y sefydliad cyfan.

Gwobr Arweinyddiaeth GIG Cymru

Mae gan y rhai sy’n cystadlu yn y categori hwn arweinydd neu dîm arwain sydd wedi defnyddio eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hymrwymiad i gyfrannu at lwyddiant y prosiect.

Gwobr Gwybodaeth GIG Cymru

Mae’r rhai sy’n cystadlu yn y categori hwn wedi dangos defnydd o ddata a gwybodaeth i gyflawni gwelliannau, mesur effaith a chynnal canlyniadau.

Gwobr Gofal Teg GIG Cymru

Bydd y rhai sy’n cystadlu yn y categori hwn wedi gwneud newidiadau sy’n dangos gwelliannau o ran mynediad at wasanaethau i bobl ag unrhyw nodweddion gwarchodedig neu bersonol penodol neu sy’n cydnabod ein cynnig rhagweithiol i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano.

Gwobr Gofal Effeithlon GIG Cymru

Mae’r rhai sy’n cystadlu yn y categori hwn wedi dangos defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau i ddarparu gwerth i’r gwasanaeth a’r cleifion.

Gwobr Gofal Effeithiol GIG Cymru

Mae’r rhai sy’n cystadlu yn y categori hwn wedi dangos effaith gadarnhaol glir ar wneud y penderfyniadau clinigol gorau, naill ai mewn un llwybr neu ar draws sawl llwybr.