Neidio i'r prif gynnwy

Gwella Canlyniadau Iechyd Meddwl i'r Rhai sy'n Defnyddio'r Gwasanaethau Digartrefedd


Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan


Cyflwyniad:

Nod y prosiect hwn oedd gwella canlyniadau iechyd meddwl i unigolion sy'n digartref yng Ngwent drwy ddatblygu amgylcheddau sy'n ystyriol o gyflwr seicolegol (PIE). Gan gydnabod y cyfraddau uchel o drawma, problemau iechyd meddwl, a rhwystrau rhag gofal o fewn y boblogaeth hon, y nod oedd gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth a lles staff trwy ddull system-gyfan sy'n seiliedig ar drawma.


Dulliau:

Gweithredwyd rhaglen wella fesul cam gan ddefnyddio cylchoedd Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu (PDSA). Cyflwynodd Cam Un ganolfan brysbennu iechyd meddwl mewn partneriaeth â chynghorau lleol a BIPAB. Roedd y dull yn cyfuno ymyriad seicolegol uniongyrchol â datblygu'r gweithlu, hyfforddiant ac ymarfer myfyriol ar gyfer staff. Ehangodd Cam Dau y gwaith hwn drwy gyllid y Loteri Fawr, gan gyflwyno ymyriadau PIE cyffredinol ac wedi’u targedu ar draws sector tai Gwent. Cipiodd fframwaith canlyniadau ddata ar lefel system, profiad defnyddwyr gwasanaeth, adborth staff, a mesurau yn seiliedig ar werth. Roedd yr ymyriadau'n cynnwys cefnogaeth dwyster isel a dwyster uchel, hyfforddi staff, a gwaith amlasiantaeth integredig.


Canlyniadau:

Arweiniodd yr ymyriad at welliannau nodedig:

  • Nododd 83% o ddefnyddwyr gwasanaeth eu bod wedi cael mynediad amserol; roedd pawb yn teimlo bod rhywun wedi gwrando arno a’i ddeall.
  • Gwelliant ystadegol arwyddocaol yn iechyd meddwl defnyddwyr gwasanaeth (data CORE-10).
  • Cwtogi 50% ar achosion o droi allan a chwtogi traean ar alw’r heddlu allan.
  • Adroddodd staff am fwy o hyder, cymhwysedd a lles.
  • Defnydd mwy priodol ac effeithlon o wasanaethau iechyd meddwl arbenigol.

Gwersi a Ddysgwyd:

Mae darparu gofal sy’n ystyriol o drawma o fewn fframwaith PIE yn gwella canlyniadau unigol ac effeithlonrwydd y system. Roedd rhanberchnogaeth, partneriaethau cadarn, ac amgylcheddau galluogol yn allweddol i lwyddiant. Daeth atgyfeirio defnyddwyr gwasanaeth yn feddylgar, yn hytrach nag amsugno angen yn awtomatig, i'r amlwg fel arwydd o ofal effeithiol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Amlygodd heriau data wrth olrhain poblogaethau digartref fod angen gwella prosesau rhannu gwybodaeth ar draws systemau.


Beth Nesaf?

Bydd Cam Tri yn canolbwyntio ar ehangu elfennau y gellir eu hatgynhyrchu (e.e. tîm amlddisgyblaethol anghenion cymhleth, hyfforddiant ystyriol o drawma), safoni arferion effeithiol, ac ymgorffori mesur canlyniadau rhagweithiol, yn seiliedig ar werth. Y nod yw pennu a yw PIE parhaus yn lleihau digartrefedd yn y tymor hir drwy wella sefydlogrwydd, mynediad at wasanaethau, a pharodrwydd ar gyfer byw'n annibynnol.