Roedd gofal clwyfau cronig i bobl ag wlserau coes gwythiennol cymhleth (CVLU) yn y gymuned yn dameidiog, yn aneffeithlon, ac yn adweithiol. Roedd nyrsys ardal dan straen gormodol, tra bod gwasanaethau perthynol i iechyd a chymorth iechyd meddwl wedi'u datgysylltu. Teimlai cleifion wedi’u dad-ddynoli a’u hynysu. Roedd angen dull mwy cynaliadwy, cydlynol, sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn, ar frys.
Datblygwyd model ANCLE Café trwy bartneriaeth system gyfan rhwng BIP Caerdydd a'r Fro, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Healthy.io™, sefydliadau gwirfoddol, a phobl â phrofiad bywyd. Mae'r caffi, sydd yn y brifysgol, yn darparu canolfan ganolog ar gyfer gofal amlddisgyblaethol, delweddu digidol, datblygu'r gweithlu a chefnogaeth gymunedol. Profodd tri chylch Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu (PDSA) ganoli clinigau, delweddu clwyfau digidol, a chlinigau tîm amlddisgyblaethol ar y cyd gyda lleoliadau myfyrwyr wedi'u hymgorffori. Roedd llwybrau atgyfeirio a rennir, dogfennaeth wedi'i halinio, a chydweithio amser real yn gydrannau craidd.
Mae newid system ar ei fwyaf effeithiol pan gaiff ei ategu gan ranberchnogaeth ac ailddychmygu sut a ble mae gofal yn cael ei ddarparu. Yn sgil gweithio rhyngddisgyblaethol, wedi’i gyd-leoli, chwalwyd seilos a gwellwyd morâl staff, dysgu myfyrwyr a phrofiad cleifion. Yn sgil gwreiddio partneriaethau addysg, cymuned, a digidol, cafwyd modelau gofal mwy cynaliadwy a pherthynol.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys ehangu model ANCLE Café yn rhanbarthol, cyhoeddi pecyn cymorth wedi'i ailgynllunio gydag AaGIC, ac ymgysylltu ag arweinwyr cenedlaethol i archwilio ei gymhwysiad ar gyfer cyflyrau hirdymor eraill. Bydd gwerthuso parhaus yn canolbwyntio ar ddysgu o systemau ac effaith gweithio traws-sector ar ganlyniadau.