Mae cyflyrau iechyd meddwl amenedigol yn effeithio ar 1 o bob 5 menyw a nhw yw prif achos marwolaeth mamau yn y cyfnod amenedigol. Mae amseroedd aros hir GIG Cymru ar gyfer therapi seicolegol yn creu risgiau annerbyniol i famau a babanod. Mae rhwystrau fel gofal plant, symudedd a stigma hefyd yn cyfyngu ar fynediad. I fynd i'r afael â hyn, datblygodd BIP Caerdydd a'r Fro ymyriad seicolegol grŵp a ddarperir o bell - ACT-for-PNMH - i wella mynediad amserol a chyfartal at ofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae ACT-for-PNMH yn therapi grŵp trawsddiagnostig yn seiliedig ar Therapi Derbyn ac Ymrwymo (ACT), wedi'i addasu i'w gyflwyno ar-lein gan ddefnyddio fframweithiau BPS ac ADAPT. Cyd-ddyluniwyd yr ymyriad gan grŵp cyfeirio arbenigol amlddisgyblaethol (ERG) o staff a defnyddwyr gwasanaeth. Cynhaliwyd treialon a gwerthusiadau ansoddol, gyda chyllid ymchwil ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu a phrofi pecyn hyfforddi cenedlaethol. Cefnogwyd tegwch drwy roi benthyg dyfeisiau digidol i gyfranogwyr heb fynediad.
Roedd y rhaglen ar-lein yn ddiogel, yn ymarferol ac yn effeithiol, gyda gwelliannau cymedrol i fawr mewn symptomau iechyd meddwl. Mae dros 350 o fenywod wedi ei defnyddio yn BIP Caerdydd a'r Fro, ac mae 72 o staff ar draws holl fyrddau iechyd Cymru wedi cael eu hyfforddi. Mae ACT-for-PNMH bellach yn cael ei ddarparu'n rheolaidd mewn pum bwrdd iechyd. Tynnodd adborth ansoddol sylw at ei hygyrchedd a'i effaith—yn enwedig i'r rhai a fyddai'n cael trafferth mynychu sesiynau wyneb yn wyneb.
Mae cyflenwi o bell yn gweithio'n dda i lawer, ond nid i bawb. Mae rhwystrau'n cynnwys mynediad digidol, gofal plant, a lle preifat. Mae cynnig opsiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein yn hanfodol. Mae angen cynlluniau gweithredu wedi'u teilwra a hyfforddiant staff hyblyg ar draws byrddau iechyd.
Byddwn yn cefnogi darpariaeth barhaus ACT-for-PNMH ledled Cymru, yn datblygu fersiynau gofal sylfaenol a hunangymorth, yn parhau ag ymchwil a gwerthuso, ac yn ehangu hyfforddiant yn genedlaethol ac yn rhyngwladol - gan rannu'r ymyriad hwn a ddatblygwyd gan GIG Cymru gyda darparwyr gofal iechyd yn Lloegr, Malaysia, Pacistan, ac UDA.