Neidio i'r prif gynnwy

Darparu Diagnosis Prydlon i Gleifion â Chanser y Pen a'r Gwddf


Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan


Cyflwyniad:

Nod y prosiect hwn oedd lleihau'r amser o amheuaeth i ddiagnosis ar gyfer cleifion Canser y Pen a'r Gwddf i 28 diwrnod erbyn mis Awst 2025. Ar y cychwyn, roedd cleifion yn aros 62 diwrnod ar gyfartaledd am benderfyniad i drin, a dim ond 19.3% yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod. Roedd yr oedi’n mentro niwed, yn lleihau cyfraddau goroesi, ac yn torri egwyddorion y Ddyletswydd Ansawdd. Mabwysiadwyd dull System Rheoli Ansawdd (QMS) i fynd i'r afael ag aneffeithlonrwydd, anghydraddoldeb, a diffyg gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.


Dulliau:

Defnyddiodd tîm craidd - gan gynnwys clinigwyr, rheolwyr ac arbenigwyr gwella - fethodoleg ddarbodus i nodi oediadau. Datgelodd dadansoddiad manwl a siart Pareto fod oediadau ar eu hamlycaf mewn tri maes: apwyntiadau claf allanol cyntaf, uwchsain, a thriniaethau panendosgopi. Mabwysiadwyd dull gwella graddol, gan ganolbwyntio’n gyntaf ar oediadau cleifion allanol ac uwchsain. Cyfrannodd rhanddeiliaid, gan gynnwys cleifion a staff archebu, fewnwelediadau drwy gyfweliadau, grwpiau ffocws ac arolygon. Roedd cyfarfodydd QMS misol yn cefnogi cynllunio, profi, rheoli a sicrwydd.


Canlyniadau:

Drwy 12 cylch PDSA, cyflawnwyd gwelliannau sylweddol. Gostyngodd amseroedd aros clai allanol cyntaf o 8.9 i 6.1 diwrnod; cwtogwyd 15 diwrnod ar oediadau cyn archwiliadau uwchsain; gostyngodd oedi cyn asesu o 21 i 2–3 diwrnod. Gwellodd y llwybr diagnostig llawn o 62 i 28 diwrnod. Cododd triniaeth o fewn 62 diwrnod o 19.3% i 64%. Gwellodd morâl y staff, ac ymgorfforodd y tîm gyfarfodydd QMS a monitro parhaus fel ymarfer safonol.


Gwersi a Ddysgwyd:

Lluniodd nodau cyffredin clir, cydweithio cryf, a llais y claf wasanaeth mwy effeithiol a thosturiol. Roedd profi newid drwy gylchoedd PDSA wedi meithrin hyder, ond gellid bod wedi gwneud cynnydd cyflymach gyda mwy o amser wedi'i warchod neu dimau cyfochrog. Roedd gwreiddio rheolaeth ansawdd yn hanfodol er mwyn cynnal enillion. Roedd dadansoddiad cost-effeithiolrwydd yn amcangyfrif gwelliant o 0.67 QALY fesul claf, a allai achub 10 bywyd y flwyddyn.


Beth Nesaf?

Mae'r tîm bellach yn anelu at drin 75% o gleifion o fewn 62 diwrnod. Mae'r fethodoleg yn cael ei rhannu gyda gwasanaethau canser eraill, ac mae cyflwyniadau mewn cynhadledd genedlaethol ar y gweill. Mae'r dull QMS cydweithredol yn cael ei hyrwyddo ar draws BIPAB.