Nod y prosiect hwn oedd gwella gofal sy'n seiliedig ar werth ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i gleifion â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, yn enwedig clefyd interstitaidd yr ysgyfaint (ILD), trwy gyflwyno profion yn y man lle y rhoddir gofal (POCT) mewn lleoliadau gofal lliniarol cymunedol. Y nod oedd lleihau derbyniadau diangen i'r ysbyty a chydredeg gofal â dewisiadau cleifion i aros gartref yn ystod diwedd oes.
Cyflwynodd y peilot POCT yn y cartref, ac yn benodol brofion protein C-adweithiol (CRP) gan ddefnyddio dyfeisiau cludadwy. Cynhaliwyd profion sylfaenol a phrofion a sbardunwyd gan symptomau yng nghartrefi cleifion, clinigau a chartrefi gofal. Dilynodd y fenter gylchoedd Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu (PDSA), gan ganolbwyntio ar ddichonoldeb, defnydd clinigol, adborth ac ehangu. Cafodd yr ymyriad ei gynllunio ar y cyd â chlinigwyr a'i gefnogi gan dîm POCT y bwrdd iechyd a Gwerth mewn Iechyd. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys canlyniadau clinigol, adborth staff/cleifion, ac effaith ariannol.
Roedd cyd-ddylunio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn gynnar yn hanfodol. Nodwyd cludadwyedd dyfeisiau a chipio data symlach fel meysydd gwella. Roedd strwythurau llywodraethu yn sicrhau diogelwch ac ansawdd. Mae’r gallu i dyfu yn unol â'r anghenion yn ymarferol gyda chefnogaeth barhaus.
Bydd y prosiect yn ehangu i garfanau clefydau eraill (y galon, yr afu, methiant yr arennau) a lleoliadau eraill, gan integreiddio POCT i ofal arferol. Mae dyfeisiau cludadwy a biofarcwyr ychwanegol yn cael eu harchwilio. Bwriedir cyflwyno’r prosiect fesul dipyn yn ehangach ledled Cymru, gyda gwerthusiad parhaus a’r potensial i’w fabwysiadu’n genedlaethol yn unol â’r Ddyletswydd Ansawdd a nodau gofal sy’n seiliedig ar werth.