Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu Arolwg o Brofiad Pobl GIG Cymru


CEDAR, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro


Cyflwyniad:

Datblygwyd Arolwg o Brofiad Pobl (PES) GIG Cymru i ddarparu mesur profiad a adroddir gan gleifion (PREM) cynhwysol, wedi'i ddilysu, sy'n cefnogi gwella gwasanaethau ar draws pob lleoliad gofal iechyd yng Nghymru o 2025 ymlaen. Mae pandemig COVID-19, modelau darparu gwasanaeth sy'n esblygu, a fframweithiau polisi wedi'u diweddaru wedi amlygu bod angen offeryn cenedlaethol ar ei newydd wedd, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.


Dulliau:

Gan ddefnyddio dulliau sydd wedi'u dilysu'n wyddonol a gymhwysir fel arfer i fesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROM), datblygwyd yr offeryn mewn dau gam. Roedd Cam Un yn cynnwys grwpiau ffocws a chyfweliadau â 33 o gyfranogwyr o sefydliadau cymunedol amrywiol, gan sicrhau cynrychiolaeth eang. Roedd Cam Dau yn cynnwys pedair rownd o brofion cenedlaethol gyda bron i 800 o ymatebion i'r arolwg. Cafodd cwestiynau eu mireinio'n ailadroddus, gan ymgorffori adborth a sicrhau hygyrchedd, gan gynnwys fformatau hawdd eu darllen, opsiynau dwyieithog, a chymorth iaith cynhwysol.


Canlyniadau:

Cafodd y PES ei ddilysu a'i lansio'n genedlaethol drwy Gylchlythyr Iechyd Cymru ym mis Ebrill 2025. Fe'i defnyddir bellach gan bob bwrdd iechyd a holl Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru trwy lwyfannau fel CIVICA. Mae'r arolwg yn cynnwys cwestiynau strwythuredig a thestun rhydd, gan alluogi meincnodi meintiol ac adborth ansoddol cyfoethog. Mae'n cefnogi gwella gwasanaethau lleol wrth gynnig cymharedd cenedlaethol. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan gleifion a staff ar ei ddatblygiad a'i ddefnydd.


Gwersi a Ddysgwyd:

Roedd cyfranogiad eang gan randdeiliaid, profion trylwyr, a dylunio dwyieithog a chynhwysol yn hanfodol i lwyddiant. Roedd llywodraethu ffurfiol, cefnogaeth Llywodraeth Cymru, a chadw at egwyddorion rheoli prosiectau PRINCE2 yn sicrhau goruchwyliaeth gref. Efallai bod peilot ar raddfa fach wedi gwella parodrwydd ar gyfer ei gyflwyno, ond roedd ymrwymiad rhanddeiliaid a thrylwyredd gwyddonol yn gryfderau hanfodol.


Beth nesaf?

Mae'r PES wrthi’n cefnogi’r broses casglu adborth ar draws gwasanaethau gan gynnwys mamolaeth, babanod newyddenedigol a gofal cymunedol. Mae cyhoeddiad yn cael ei adolygu i rannu methodoleg. Mae'r offeryn yn gosod safon newydd ar gyfer mesur profiad yng Nghymru, gan gynnig model cynhwysol, y gellir ei ehangu ar gyfer gwella gwasanaethau a dysgu rhyngwladol.