Lansiwyd y gwasanaeth Profi a Phostio ar-lein ym mis Mai 2020 i ddiwallu anghenion profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn ystod COVID-19. Buan yr aeth y galw y tu hwnt i’r disgwyliadau, a thros 72,000 o becynnau wedi'u harchebu yn y flwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, daeth anghydraddoldebau i’r amlwg: roedd y gwasanaeth yn allgáu pobl heb gyfeiriadau sefydlog, mynediad i'r rhyngrwyd, ffonau, neu lythrennedd digonol. Mewn ymateb, lansiodd Rhaglen Iechyd Rhywiol Iechyd Cyhoeddus Cymru gangen gymunedol Profi a Phostio ym mis Ionawr 2024 i fynd i'r afael â rhwystrau ymhlith grwpiau iechyd cynhwysiant.
Dyluniwyd pecynnau hunan-samplu generig mewn tri math (Gweiniol, Pidynnol, Cyffredinol), gan alluogi pobl i brofi am ystod lawn o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Yn sgil enwi pecynnau yn ôl anatomeg yn hytrach na rhywedd, gwellodd hygyrchedd i unigolion traws ac anneuaidd. Cydweithiodd y tîm â rhanddeiliaid (y GIG, y trydydd sector, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, ysgolion, ac awdurdodau lleol) i sefydlu 351+ o safleoedd dosbarthu gan gynnwys llyfrgelloedd, canolfannau prawf, clybiau chwaraeon, a charchardai. Cynigiwyd hyfforddiant i staff y safle i gefnogi dosbarthu heb gyfranogiad clinigol, gyda chefnogaeth barhaus gan gynghorwyr iechyd.
Bydd y gwasanaeth yn parhau i ehangu drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, digwyddiadau ac allgymorth. Bydd data o becynnau cymunedol yn llywio mireinio a thargedu, gan sicrhau gwelliant parhaus mewn mynediad cyfartal at iechyd rhywiol ledled Cymru.