Neidio i'r prif gynnwy

Pontio'r Bwlch: Mynd i'r Afael ag Allgáu Digidol mewn Gofal Mamolaeth drwy'r Banc Data Mamolaeth


Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


Cyflwyniad:

Lansiodd BIP Cwm Taf Morgannwg y Banc Data Mamolaeth i sicrhau nad yw'r newid i gofnodion mamolaeth digidol yn gadael neb ar ôl. A 59.3% o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd difreintiedig, nodwyd bod allgáu digidol yn risg ddifrifol. Mae'r fenter yn darparu data symudol am ddim i fenywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth a allai gael trafferth cael at ofal digidol, gyda'r nod o ymgorffori tegwch mewn trawsnewid digidol o'r cychwyn cyntaf.


Dulliau:

Cafodd y Banc Data Mamolaeth ei wreiddio’n uniongyrchol yn y llwybr atgyfeirio mamolaeth, gan ddefnyddio cwestiynau Gofal Cysylltiedig i nodi allgáu digidol yn gynnar—heb orfod i unigolion ofyn am gymorth. Gallai bydwragedd gynnig cefnogaeth yn ystod apwyntiadau arferol neu drwy atgyfeirio ymlaen/hunan-atgyfeirio. Gan weithio gyda Good Things Foundation, dosbarthwyd cardiau SIM i sicrhau mynediad diogel a dibynadwy at gofnodion mamolaeth personol, cynlluniau gofal ac adnoddau ar-lein. Cefnogodd pecyn gweithredu llawn y broses gyflwyno gyda’r baich clinigol lleiaf posibl.


Canlyniadau:

  • Mae 70 o fenywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth wedi cael cardiau SIM
  • Roedd 7.8% o atgyfeiriadau wedi’u hallgáu'n ddigidol. Ar ôl addasu'r meini prawf, ehangwyd cymhwysedd i adlewyrchu rhwystrau bywyd go iawn yn well
  • Nododd 82% o dderbynwyr fod mynediad at ofal iechyd wedi gwella
  • Roedd 70% yn teimlo'n fwy cysylltiedig â gwasanaethau mamolaeth
  • Dangosodd adborth ansoddol cryf effeithiau ar ddiogelwch, annibyniaeth a lles

Gwersi a Ddysgwyd:

Roedd gwreiddio cynhwysiant digidol o fewn llwybrau atgyfeirio mamolaeth arferol yn hytrach na dibynnu ar adnabod gan staff yn sicrhau cefnogaeth gyson a chyfartal heb faich ychwanegol.
Roedd trothwyon incwm anhyblyg yn allgáu rhai unigolion sydd mewn perygl gwirioneddol; roedd cael barn broffesiynol yn eu lle yn gwella mynediad a dylid mabwysiadu hyn o'r cychwyn cyntaf.


Beth nesaf?

Mae pecyn gweithredu yn galluogi byrddau iechyd eraill i fabwysiadu'r model, ac mae ymgysylltu gweithredol eisoes ar y gweill ledled Cymru. Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys ehangu i wasanaethau eraill fel ymweliadau iechyd ac iechyd meddwl amenedigol a mynd i'r afael â mynediad at ddyfeisiau i fynd i'r afael ag allgáu digidol dyfnach.