Er mwyn gwella gofal cleifion a chyflawni strategaeth “Mwy na Geiriau” Llywodraeth Cymru, cydnabu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) fod angen cynyddu hyfedredd yn y Gymraeg ymhlith staff. Er ei fod yn gwasanaethu rhanbarth lle mae 33% o'r boblogaeth (a thros 60% yng Ngwynedd) yn siarad Cymraeg, dywedodd bron i hanner staff BIPBC nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg. Roedd angen model hyfforddi strategol, cynaliadwy i gau'r bwlch hwn.
BIPBC oedd y bwrdd iechyd cyntaf i gyflogi swyddog cymorth a thiwtor Cymraeg mewnol amser llawn. Cynlluniodd y tîm hwn gyrsiau hyblyg, penodol i'r gweithle, wedi'u halinio â safonau'r cwricwlwm cenedlaethol ond wedi'u teilwra i rolau staff. Cynigiwyd hyfforddiant pwrpasol i grwpiau blaenoriaeth (e.e. Therapi Iaith a Lleferydd [SALT]), gyda llwybr dysgu strwythuredig ar gyfer swyddi 'Cymraeg i'w dysgu'. Cydweithiodd y tîm yn agos â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i dreialu mentrau penodol i'r sector a bu’n ymgysylltu â staff ar draws pob lefel, gan gynnwys aelodau'r Bwrdd.
Bydd y tîm yn ehangu’r hyfforddiant i Wasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu, gan barhau cydweithio strategol â phartneriaid cenedlaethol i ymgorffori sgiliau Cymraeg ar draws y bwrdd iechyd.