Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrau GIG Cymru

Mae enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2025 wedi cael eu cyhoeddi.


Mae'r gwobrau'n arddangos timau sy'n ysgogi gwelliannau mewn ansawdd a diogelwch ac yn trawsnewid profiadau a chanlyniadau i bobl Cymru. Mae prosiectau wedi cael eu cyflwyno ar draws ystod o gategorïau sy'n cyd-fynd â'r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023.

O blith 36 o brosiectau a gyrhaeddodd y rhestr fer, datgelwyd bod 12 tîm yn enillwyr, ac fe gyflwynwyd gwobr ychwanegol am Gyfraniad Rhagorol at Wella Gofal Iechyd.

Llongyfarchiadau i holl enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2025 a da iawn i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Darganfyddwch sut mae'r timau hyn yn gwella iechyd a gofal ledled Cymru a darllenwch bopeth am eu prosiectau isod.