Roedd Tŷ Llidiard (TL), uned Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) gyda 15 gwely ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys morâl staff gwael, cyfraddau salwch a throsiant uchel, a gormod o ddigwyddiadau diogelwch yn ymwneud â chleifion. Roedd yr uned yn destun craffu manwl oherwydd pryderon am ansawdd, diogelwch, arweinyddiaeth a diwylliant, gan arwain at weithredu atebion tymor byr ar gyfer problemau hirdymor.
Roedd recriwtio ar gyfer rolau therapi allweddol yn anodd, gan effeithio ar ofal cleifion. Roedd yr adborth yn dangos bod pobl ifanc a theuluoedd yn teimlo nad oedd ganddynt lais yn eu gofal. Y nod oedd sefydlu diwylliant o arweinyddiaeth ragorol a diogelwch seicolegol gyda thimau deinamig sy'n perfformio’n dda ac yn gyrru gofal a thriniaeth yn ei flaen ar sail tystiolaeth.
Sefydlwyd bwrdd gwella dan arweiniad gweithredol i yrru’r meddylfryd "O’r Ward i'r Bwrdd," gan ganolbwyntio ar welliant system-gyfan sy'n canolbwyntio ar anghenion pobl ifanc. Roedd y bwrdd, gyda thair ffrwd waith — Gofal Gofalgar, Tosturiol, Diogel ac Effeithiol; Arweinyddiaeth Ddigynnwrf, Hyderus; ac Amgylchedd Addas i'r Diben — yn rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth weladwy a gwneud penderfyniadau ar y cyd. Roedd digwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghoriadau â rhanddeiliaid, gan gynnwys cleifion, gofalwyr a staff, yn defnyddio methodoleg Gwella Ansawdd a'r offeryn 4N ar gyfer adborth. Derbyniodd dros 60 aelod o staff hyfforddiant Gwella Ansawdd, a chydgynhyrchwyd yr holl welliannau gyda phobl ifanc a'u teuluoedd, dan arweiniad y bedair egwyddor: Gofalgar, Tosturiol, Digynnwrf a Hyderus.