Mae lefelau gweithgarwch corfforol plant yn dirywio'n fyd-eang, gan niweidio iechyd corfforol a meddyliol. Yng Nghymru, dim ond 51% o blant 3-17 oed sy'n bodloni canllawiau gweithgarwch corfforol Sefydliad Iechyd y Byd ac mae mwy nag un o bob pedwar plentyn (4-5 oed) dros bwysau neu'n ordew, gyda chyfraddau’n cynyddu wedi'r pandemig.
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gweld mwy o achosion o boen traed ymhlith plant ifanc oherwydd anweithgarwch. Mewn ymateb, datblygwyd datrysiad digidol arloesol, gan droi ymarferion podiatreg yn animeiddiadau rhyngweithiol. Y nod, sy'n cyd-fynd â'r safonau Dyletswydd Ansawdd, oedd creu cyfleoedd symud dyddiol ar gyfer 300 o blant (4-6 oed) mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghaerdydd a'r Fro o fewn chwe mis.
Cydweithiodd arweinwyr prosiect o feysydd iechyd cyhoeddus a phodiatreg i ddatblygu cynnyrch oedd yn gwella gwasanaethau, gan sicrhau cyllid drwy fenter atal a blynyddoedd cynnar y bwrdd iechyd a phartneru gydag animeiddwyr preifat lleol i greu animeiddiad wedi’i frandio sy'n ymgorffori ymarferion podiatreg a chymeriadau rhyngweithiol.
Trwy fframwaith Gwella Ansawdd Gyda'n Gilydd (IQT) a defnyddio'r model Cynllunio Gwneud Astudio Gweithredu (PDSA), bu’r tîm yn ymgysylltu â staff clinigol ac anghlinigol y GIG, cydweithwyr o adrannau addysg awdurdodau lleol, ac ysgolion trwy gydol y prosiect. Cynhaliwyd cyfarfodydd i randdeiliaid ar bob cam i sicrhau ansawdd a chysondeb y cynnyrch, a chreu a threialu amserol. Cynhaliwyd peilot NewidCyflym rhwng Tachwedd 2022 a Chwefror 2023.