Dydd Mawrth 12 Mai yw Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys. Mae’n tynnu sylw at y cyfraniad amhrisiadwy y mae nyrsys yn ei wneud i ofal iechyd, ac yn tynnu sylw at themâu allweddol sy'n ymwneud â nyrsio byd-eang. Y ffocws yn 2026 yw Ein Nyrsys. Ein Dyfodol. Mae Nyrsys Grymus yn Achub Bywydau.
Yn y blog hwn, mae Tîm Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan, (Rhys Roberts, Teresa Durston, Sharon Fernandez a Kimberly Field) yn rhannu myfyrdodau ar y cyd ar sut mae thema eleni yn cyd-fynd â gwaith ein rhaglen a'u hymrwymiad parhaus i gefnogi nyrsys ledled Cymru.
Ein Nyrsys. Ein Dyfodol. Mae Nyrsys Grymus yn Achub Bywydau. Dyna thema Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys sy'n atseinio'n gryf gyda ni yn Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan, a'r hyn yr ydym yn gweithio i'w gyflawni.
Mae nyrsys yn gyfystyr â llawer o'r rhinweddau arbennig sy'n gysylltiedig â'r gofal iechyd gorau. Tosturi ar adegau o ansicrwydd. Sgiliau ar adegau o angen. Arweinyddiaeth ar adegau o newid.
Ffocws ein rhaglen yw sicrhau'r amodau yng Nghymru i'r rhinweddau hynny ddisgleirio.
Ym mhob lleoliad, o ysbytai a gwasanaethau cymunedol i gartrefi a gofal arbenigol, mae nyrsys yn darparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn; maen nhw’n gwella canlyniadau, yn eirioli dros gleifion ac yn helpu i lunio dyfodol gwasanaethau ledled Cymru - yn aml yng ngwyneb amgylchiadau heriol.
Gan fabwysiadu dull unwaith-i-Gymru, mae ein rhaglen yn cefnogi GIG Cymru i gyflawni dyletswyddau Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Mae’n helpu i sicrhau staffio diogel ac effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar draws gwasanaethau, gan ddarparu sylfaen i nyrsys ym mhob lleoliad ofalu, arwain, eirioli dros gleifion, a gwella canlyniadau.
Mae elfennau o’n gwaith yn cynnwys bwrw ymlaen â’r defnydd o luosogyddion staffio i droi galw cleifion yn ofynion y gweithlu mewn modd rhifiadol; cryfhau’r ffordd rydym yn bodloni Adran 25A o’r Ddeddf i sicrhau bod digon o nyrsys ar gael ym mhob lleoliad gofal, nid mewn ysbytai acíwt yn unig; hyrwyddo atebion digidol ar gyfer cynllunio’r gweithlu mewn ffordd fwy gwybodus; ac ysgogi meincnodi a chysondeb yn genedlaethol.
Rydym hefyd yn gweithredu egwyddorion cenedlaethol ar gyfer trefnu rhestrau dyletswyddau i helpu gwasanaethau i greu rhestrau’n ddiogel, yn effeithlon ac yn deg, wrth wella profiad staff a gofal cleifion. Yn ogystal, bydd y Fframwaith Rhagoriaeth Glinigol Cenedlaethol datblygol yn hyrwyddo arferion rhagorol, gwaith gwella ansawdd, datblygiad proffesiynol a’r ffordd y caiff arbenigedd nyrsio ei gydnabod ledled Cymru.
Nid yw'r meysydd gwaith hyn yn ymwneud â chryfhau systemau yn unig - maen nhw’n grymuso nyrsys i arwain.
Mae arweinyddiaeth mewn nyrsio yn bodoli ym mhob rôl. Ni waeth a ydyn nhw’n darparu gofal uniongyrchol, yn arwain timau, yn addysgu eraill, yn gwella gwasanaethau, yn ysgogi arloesi trwy ymchwil neu’n llunio polisi - mae gan bob nyrs lais, ac mae pob nyrs yn arwain.
Trwy dynnu sylw at ddata gwell, offer mwy clyfar, llywodraethu cryfach a chysondeb yn genedlaethol, mae ein gwaith yn hwyluso nyrsys i wneud yr union beth hwnnw - sef dylanwadu ar benderfyniadau, gwella gwasanaethau a darparu’r gofal mwyaf diogel posibl.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys – fel bob dydd – mae'n bwysig cydnabod proffesiynoldeb, ymroddiad, tosturi, gwydnwch ac arweinyddiaeth pob nyrs sy'n gweithio ledled Cymru, sy'n parhau i gefnogi ei gilydd, arwain gwelliannau a darparu gofal diogel ac effeithiol, yn aml mewn amgylchiadau heriol.
Fel rhan o'r gydnabyddiaeth honno, rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i weithio tuag at ddyfodol disglair i nyrsys yng Nghymru - sef dyfodol lle gall y rhinweddau arbennig hynny ddisgleirio a gwneud gwahaniaeth i gleifion, teuluoedd a chymunedau ym mhob cwr o Gymru, ddydd ar ôl dydd.