Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Diogelwch Cleifion Cenedlaethol GIG Cymru 2026 – 2031

Bydd Cynllun Diogelwch Cleifion Cenedlaethol GIG Cymru 2026 – 2031 yn pennu diogelwch cleifion fel blaenoriaeth hanfodol i bob rhan o GIG Cymru.

Mae'r cynllun yn nodi gweledigaeth feiddgar i wneud gofal yng Nghymru yn fwy diogel drwy leihau niwed y gellir ei osgoi a meithrin diwylliant lle mae dysgu a gwella wrth wraidd popeth y mae'r GIG yn ei wneud. Drwy wrando, arwain a dysgu, bydd y cynllun yn tywys ac yn ysgogi gwelliannau diogelwch cleifion ledled Cymru.

Am y tro cyntaf, mae'r cynllun yn darparu fframwaith cenedlaethol cydlynol, ac yn symud Cymru y tu hwnt i fentrau ynysig a thuag at ddull unedig a chyson, system-gyfan sydd wedi'i wreiddio mewn dysgu, gwaith atal, a gwelliant parhaus. Mae'n creu ymrwymiad na ellir ei drafod i ddiwylliant diogelwch, arweinwyr gweladwy ac ymroddedig, amgylcheddau gwaith sy'n ddiogel yn seicolegol, a dysgu ystyrlon o brofiad.

 

Mae'r cynllun yn rhoi mwy o bwyslais ar fewnwelediad cleifion a'r cyhoedd, ac yn sicrhau bod profiad bywyd yn llywio gwelliant diogelwch ar bob lefel. Bydd y gwaith o gyflawni’r cynllun yn cyfuno gweithredu cyflym lle mae blaenoriaethau brys, â gweithgarwch hirdymor a gynlluniwyd ar y cyd â staff, cleifion a phartneriaid.

Wrth wraidd y Cynllun mae dull System Rheoli Ansawdd (QMS), sy'n dwyn ynghyd gynllunio, gwella, rheoli a sicrwydd mewn un model cyson ar gyfer diogelwch cleifion.

Ochr yn ochr â phennu diogelwch cleifion fel blaenoriaeth hanfodol i bob rhan o GIG Cymru, mae'r cynllun yn nodi chwe blaenoriaeth diogelwch clinigol genedlaethol strategol ar gyfer ffocws penodol a nodwyd gan sefydliadau gofal iechyd a Llywodraeth Cymru:

  • Dirywiad corfforol acíwt
  • Datgyflyru yn y gymuned
  • Heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd
  • Gwella diogelwch mewn gwasanaethau iechyd meddwl gofal eilaidd
  • Pobl ag anabledd dysgu a niwrowahaniaeth
  • Gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol

Mae seithfed blaenoriaeth diogelwch clinigol genedlaethol strategol arall ynghylch diogelwch meddyginiaethau hefyd yn cael ei datblygu.

Cyflawni'r cynllun

Bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cenedlaethol a systemau lleol i gyflawni'r cynllun, ac yn sicrhau bod gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd y gefnogaeth, yr arbenigedd a'r fframweithiau sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Bydd cynnydd yn cael ei fonitro drwy'r Fframwaith Canlyniadau Ansawdd (QOF) ac adolygiadau rheolaidd, a bydd yn sicrhau tryloywder, dysgu a gwelliant parhaus.

Bydd Fframwaith Llywodraethu Clinigol Cenedlaethol a Thîm Diogelwch Cleifion Cenedlaethol yn llywio’r gwaith o ddarparu’r cynllun, yn gosod safonau, ac yn sicrhau atebolrwydd a chysylltedd ledled Cymru.

Darllenwch y cynllun

Mae modd gweld Cynllun Diogelwch Cleifion Cenedlaethol GIG Cymru 2026 – 2031 yma.