Mae ein rhaglen Systemau Rheoli Ansawdd (QMS) genedlaethol yn cefnogi sefydliadau ledled GIG Cymru i ddeall systemau QMS a'u rhoi ar waith yn effeithiol, fel sy'n ofynnol gan y Ddyletswydd Ansawdd.
Mae'r rhaglen sydd wedi'i seilio ar ein methodoleg a'n canllawiau Datblygu System Rheoli Ansawdd, yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Q, cymuned sy'n cyflymu gwelliant iechyd a gofal trwy gydweithredu, a'r Clinig Gwella Ansawdd (QIC), sy’n rhoi mynediad at arbenigedd a mewnwelediad rhyngwladol.
Mae'r rhaglen yn cynnwys chwe ffrwd waith gydberthynol gyda ffocws ar gynhyrchu mewnwelediad a dysgu am sefydlu QMS yn GIG Cymru, datblygu dealltwriaeth o QMS ymhlith cydweithwyr allweddol, a chyflwyno QMS.