Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Cydweithio Llwyddiannus yn GIG Cymru

Dathlu Cydweithio Llwyddiannus yn GIG Cymru

Ymunwch â ni am weminar Materion Anadlol arbennig sy'n archwilio'r gweithio mewn partneriaeth y tu ôl i’r gwaith o ddatblygu’r Llwybr Diffyg Anadl. Dyma flaenoriaeth strategol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a gwaith ehangach y Rhwydwaith Anadlol.

 

Bydd y sesiwn hon, a fydd ar ffurf cyfweliad, yn archwilio’r ffordd mae clinigwyr, cydweithwyr data a digidol, timau trawsnewid gwerth a phartneriaid o’r diwydiant wedi cydweithio i gyd-gynhyrchu dyluniad y llwybr. Bydd ein siaradwyr yn rhannu mewnwelediadau ymarferol, arferion gorau a’r gwersi a ddysgwyd o gydweithio ar draws sefydliadau.

 

Mae’n bleser gennym groesawu:

 

• Arthur Duncan-Jones – Rheolwr Deallusrwydd Iechyd, Trawsnewid Gwerth, Perfformiad a Gwella GIG Cymru

• Louise Goswell – Rheolwr Llwybrau’r DU, Tîm Llwybrau AstraZeneca

• Sarah Puntoni – Uwch Arweinydd y Rhaglen, Trawsnewid Gwerthoedd, Perfformiad a Gwella GIG Cymru

 

Bydd y drafodaeth yn archwilio’r canlynol:

  • Cyd-gynhyrchu ar draws timau clinigol, digidol a thrawsnewid
  • Gwaith integreiddio digidol ac alinio systemau
  • Datblygu'r Dangosfwrdd Digidol Anadlol
  • Datblygu Fframwaith Data Cymru Gyfan y Llwybr Diffyg Anadl
  • PROMs a PREMs y cytunwyd arnynt i gefnogi’r gwaith o wella ansawdd a dulliau gwerthuso yn y dyfodol

 

Mae'r weminar hon wedi'i chynllunio i gefnogi cydweithwyr ar draws pob Rhwydwaith a Rhaglen Perfformiad a Gwella, gan gynnwys clinigwyr, arweinwyr rhwydweithiau, rheolwyr rhwydweithiau, rheolwyr prosiectau, partneriaid o’r trydydd sector a'r rhai sy'n ymwneud ag arloesi a thrawsnewid gwasanaethau. Bydd yn darparu enghreifftiau ymarferol o gydweithio effeithiol ar draws systemau a meithrin perthnasoedd cryf ac effeithiol â rhanddeiliaid.