Gall diabetes fod yn heriol, ond mae llawer o bobl yn gallu byw'n dda gyda'r gefnogaeth a'r wybodaeth gywir.
Gydag arweiniad clir, cymryd amser i ddysgu, a rhywfaint o arferion defnyddiol, gallwch deimlo’n fwy hyderus o ran rheoli eich iechyd o ddydd i ddydd. Mae'r adran hon y wefan yn dod ag adnoddau at ei gilydd a allai helpu gyda’r pethau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol fel bwyta’n dda a symud mewn ffyrdd yr ydych chi’n eu mwynhau.
Fe welwch chi hefyd wybodaeth ymarferol am ofalu am eich llesiant, gwybod sut i reoli eich diabetes, a chadw’n barod ar gyfer beth bynnag a ddaw mewn bywyd.
Mae diabetes yn un rhan yn unig o bwy ydych chi, a gyda’r gefnogaeth gywir, fel arfer gallwch barhau i wneud y rhan fwyaf o bethau, os nad popeth, yr ydych chi’n ei fwynhau.
Porwch drwy’r pynciau isod i ddod o hyd i adnoddau ymarferol i’ch helpu i ofalu am eich iechyd a byw yn dda gyda diabetes.