Neidio i'r prif gynnwy

Mae gen i gyflwr cynddiabetes

Mae cyflwr cynddiabetes (a elwir weithiau'n 'diabetes ymylol') yn golygu bod lefelau glwcos yn y gwaed wedi codi ac y bydd yn debygol o ddatblygu’n Ddiabetes Math 2. Mae yna bethau y gallwch eu gwneud i leihau'ch risg o ddatblygu diabetes math 2.

I lawer, nid oes unrhyw symptomau, a dyna pam ei fod yn aml yn cael ei ddarganfod drwy brofion gwaed.

Mae'r profion hyn yn helpu i wirio a ydych chi mewn mwy o berygl o ddatblygu diabetes math 2 yn y dyfodol. Gallwch ddysgu mwy am yr hyn sy'n eich gwneud chi mewn perygl o ddiabetes a sut y gallwch leihau eich risg trwy wylio'r fideo isod .

Os bydd prawf gwaed yn dangos bod gennych gyflwr cynddiabetes, efallai y cewch eich gwahodd i fynychu apwyntiad gyda’ch tîm gofal iechyd a fydd yn eich helpu i osod nodau i leihau eich risg o ddatblygu Diabetes Math 2. Mae hyn yn rhan o Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan.

 Mae Let's Prevent yn rhaglen ar-lein ar gyfer pobl gyda chyflwr cynddiabetes sy'n eich helpu i ddysgu am atal diabetes, gosod nodau, a 'Gofyn i'r Arbenigwr'. 

Darganfyddwch fwy a chofrestrwch yma: Let's Prevent Cymru