Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd nodedig yn y flwyddyn gyntaf ym maes iechyd menywod ledled Cymru

Mae'r uchelgais i gau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau yng Nghymru yn cael ei dathlu ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, wrth i Berfformiad a Gwella GIG Cymru gyhoeddi adroddiad blynyddol cyntaf Cynllun Iechyd Menywod GIG Cymru.

Mae Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd GIG Cymru yn un uchelgeisiol, ac mae’n gosod y weledigaeth ar gyfer gwella gwasanaethau gofal iechyd menywod yng Nghymru. Cafodd y cynllun ei greu gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, ac mae’n amlinellu 64 o gamau gweithredu ar draws wyth maes. Ers i’r cynllun gael ei lansio yn 2025, mae mwy nag 80% o'i gamau gweithredu tymor byr, tymor canolig a hirdymor eisoes yn mynd rhagddynt.

Dywedodd Sam Perera, Rheolwr Rhwydwaith y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, “Drwy’r adroddiad darganfod yn 2022, gwnaethom wrando ar brofiadau menywod a merched mewn perthynas â’r hyn sydd bwysicaf iddynt, yr heriau y maent yn eu hwynebu a’r ffyrdd maen nhw eisiau i ofal iechyd wella. Ar ôl clywed gan bron 4,000 o fenywod ledled Cymru, nododd yr adroddiad y themâu sylfaenol, a defnyddiodd y rhain i lywio'r wyth maes â blaenoriaeth y mae Cynllun Iechyd Menywod GIG Cymru bellach yn mynd i'r afael â nhw.”

Yr wyth maes â blaenoriaeth yw: iechyd mislif; endometriosis ac adenomyosis; atal cenhedlu, atal cenhedlu ôl-enedigol a gofal erthyliad; iechyd cyn beichiogi, iechyd y pelfis ac anymataliaeth, y menopos; trais yn erbyn menywod a merched a heneiddio'n dda, a chyflyrau hirdymor ar draws cwrs bywyd.

“Yn ogystal â’r wyth maes, mae ein hadroddiad blynyddol hefyd yn dogfennu’r cynnydd a wnaed yn erbyn y blaenoriaethau a osodwyd inni gan Lywodraeth Cymru. Dyma lle rydym wedi gwneud y cynnydd mwyaf yn ystod y 12 mis diwethaf”, ychwanegodd Sam.

Mae sefydlu Canolfan Iechyd Menywod ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru wedi bod yn flaenoriaeth i'r gweinidog; disgwylir i bob canolfan agor erbyn mis Mawrth 2026. Mae canolfannau'n cael eu datblygu'n lleol i ddarparu gofal wedi’i deilwra i fenywod sy'n byw yn yr ardal honno. Bydd rhai canolfannau wedi'u lleoli mewn adeilad ffisegol; bydd eraill yn rhithwir, ac mae opsiynau ar gyfer rhai symudol hefyd yn cael eu harchwilio.

Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: “"Rwy'n falch iawn ein bod wedi buddsoddi £3m er mwyn sefydlu hybiau iechyd menywod ym mhob bwrdd iechyd, gan ddod â gwasanaethau hanfodol a gofal yn nes at y cartref. Mae'r hybiau bellach ar agor ac yn cynnig i ferched a menywod gwasanaethau atal cenhedlu, gofal menopos, iechyd pelfig a gofal mislif.

"Byddwn yn parhau i wrando ar adborth gan fenywod ac addasu gwasanaethau o fewn y canolfannau er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig y gofal cywir, yn y lle gorau, i fenywod a merched, nawr ac yn y dyfodol."

Cyflawniad allweddol arall fu creu deunyddiau dysgu ar gyfer pobl ifanc. Mae'r adnoddau addysgol hyn wedi'u hanelu at bobl ifanc 11-16 oed, ac maent yn canolbwyntio ar bynciau fel mislif, endometriosis ac iechyd y pelfis. Fe'u cynhyrchwyd ar y cyd â phlant ysgol a phobl ifanc fel y gallant gael mynediad at wybodaeth yn ddisylw, a hynny mewn ffyrdd sy'n hwylus iddynt, yn ogystal ag mewn lleoliadau ysgol. 

Parhaodd Sam, “Un o brif elfennau’r cynllun yw sicrhau y gall menywod gael mynediad at wybodaeth iechyd ddibynadwy yn gyflym ac yn hawdd, felly rydym wedi cymryd camau i wella mynediad digidol. Yn ogystal â sicrhau bod deunyddiau dysgu ar gael yn ddigidol, rydym hefyd wedi diweddaru ein gwefan Mislif Fi, sy'n canolbwyntio ar iechyd mislif, ac rydym wedi bod yn brysur yn cyd-ddylunio gwefan bwrpasol newydd sy'n ymwneud â phob agwedd ar iechyd menywod. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid fel Ymchwil Iechyd Menywod Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a menywod yn uniongyrchol, a hynny er mwyn llunio cynnwys y wefan, a disgwylir iddi fynd yn fyw yn ddiweddarach y mis hwn.”

Mae'r datblygiadau digidol hyn yn cael eu cefnogi gan waith cenedlaethol i godi safonau ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys meincnodi gwasanaethau yn erbyn canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), creu dangosfwrdd data iechyd menywod newydd i fonitro tueddiadau allweddol, a chyflwyno hyfforddiant menopos ar gyfer staff ym mhob bwrdd iechyd.

Dywedodd Dr Helen Munro, Arweinydd Clinigol y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod: “Mae thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, sef 'Rhoi i Ennill', yn adlewyrchu'r ysbryd sydd wedi sbarduno cynnydd dros y 12 mis diwethaf. Ledled Cymru, mae menywod, clinigwyr a chymunedau wedi rhoi o’u hamser, eu profiadau a'u hymrwymiad i lunio gofal iechyd gwell. Oherwydd yr ymdrech ar y cyd honno, rydym eisoes yn gweld cynnydd gwirioneddol tuag at wella gofal iechyd menywod fel y gall menywod o bob oedran elwa, heddiw ac am genedlaethau i ddod.

“Mae momentwm y flwyddyn gyntaf hon yn dangos yr hyn sy’n bosibl pan rydyn ni’n gwrando ar fenywod, yn blaenoriaethu eu hanghenion ac yn cydweithio â phwrpas. Mae'n fuddsoddiad yn iechyd, urddas a dyfodol menywod ledled Cymru, yn ogystal ag mewn gwasanaethau.”

I ddarllen yr adroddiad blynyddol cyntaf, ac i gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Iechyd Menywod GIG Cymru, ewch i wefan Perfformiad a Gwella GIG Cymru.