Er bod menywod yn byw'n hirach na dynion, mae ymchwil yn dangos eu bod yn byw am lai o flynyddoedd heb anabledd, yn aros yn hirach am gymorth lleddfu poen ac mae nifer ohonynt yn dweud bod eu symptomau wedi'u diystyru.
Mae'r cynllun, sydd wedi'i greu gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, sy'n rhan o Weithrediaeth GIG Cymru, yn nodi sut y bydd sefydliadau'r GIG yng Nghymru yn cau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau drwy ddarparu gwell gwasanaethau iechyd i fenywod, gan sicrhau bod pobl yn gwrando arnynt a bod eu hanghenion iechyd yn cael eu deall.
Yn seiliedig ar adborth a gafwyd gan oddeutu 4,000 o fenywod, mae'n cynnwys bron i 60 o gamau gweithredu ar draws wyth maes blaenoriaeth i wella gofal iechyd i fenywod drwy gydol eu hoes.
Yn rhan o'r cynllun, bydd cyllid gwerth £750,000 yn cael ei wario ar ymchwil i gyflyrau iechyd menywod a bydd hybiau iechyd menywod yn cael eu sefydlu ym mhob cwr o Gymru erbyn 2026.
Mae hefyd yn cynnwys yr ymrwymiad ‘Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif’ er mwyn annog meddygon i ofyn i fenywod am iechyd mislif a'r menopos yn rhan o apwyntiadau rheolaidd.
"Bydd y Cynllun Iechyd Menywod cyntaf i Gymru yn sicrhau bod menywod yn cael gwasanaethau iechyd gwell drwy gydol eu bywydau.
"Mae iechyd menywod yn fwy nag iechyd gynaecoleg ac iechyd mamolaeth. Rwyf am i'r cynllun hwn fod y dechrau i well gofal i fenywod – rwyf am i leisiau menywod gael eu clywed a bod eu profiadau yn cael eu cydnabod. Bydd yn golygu na fydd symptomau menywod, beth bynnag fo'u cyflyrau, yn cael eu hanwybyddu na'u diystyru."
"Rwy'n falch o gefnogi lansio'r cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol hwn, a fydd yn annog gwelliannau gwirioneddol i iechyd a chanlyniadau menywod.
"Rwy'n glir bod y cynllun hwn yn arwydd o newid sylweddol yn y ffordd y mae'r Gwasanaeth Iechyd yn helpu menywod – bydd yn grymuso menywod i gael eu clywed wrth gael gafael ar ofal iechyd.
"Dyma'r mecanwaith ar gyfer newid go iawn. Mae'n nodi sut y byddwn yn darparu'r gwasanaethau gwell y mae menywod Cymru eu heisiau."
"Mae wedi bod yn fraint fawr cael fy mhenodi’n Arweinydd Clinigol cyntaf ar gyfer Iechyd Menywod yng Nghymru, a chael arwain ar lunio Cynllun Iechyd Menywod GIG Cymru.
"Fy ngobaith yw y bydd y cynllun yn helpu i godi ymwybyddiaeth bod rhaid i iechyd menywod fod yn flaenoriaeth. Yn glinigydd, rwy’n ymwybodol iawn fod gwasanaethau i fenywod yng Nghymru yn annigonol yn aml o ran diwallu gofynion ac anghenion menywod a darparu’r hyn y maen nhw’n ei haeddu. Rydyn ni’n gobeithio gallu newid hyn drwy roi’r cynllun hwn ar waith.
“Drwy gydweithio gwirioneddol ar draws systemau gofal iechyd, cydweithio â Llywodraeth Cymru ond, yn bwysicaf oll, cydweithio â menywod, gallwn sicrhau iechyd gwell i’r 51 y cant. Heddiw, rydyn ni'n dechrau ar y gwaith o sicrhau bod newid cadarnhaol yn digwydd."
"Mae Clymblaid Iechyd Menywod Cymru yn croesawu lansio’r Cynllun Iechyd Menywod hwn gan GIG Cymru.
"Dangosodd tystiolaeth y Glymblaid sut mae menywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod adeg eu geni yn profi gwahaniaethau ar draws ystod eang o faterion iechyd ac nad yw anghenion menywod, yn aml iawn, wedi cael eu hystyried.
"Rydym yn edrych ymlaen nawr at gefnogi’r gwaith o weithredu’r cynllun ac yn edrych ymlaen at Gymru lle mae gwrandawiad i’n lleisiau, dealltwriaeth well o’n hiechyd, a chydraddoldeb o ran iechyd yn cael ei sicrhau.”
Mae’r cynllun, a fydd yn parhau i ddatblygu dros amser, yn cynnwys y camau gweithredu a ganlyn:
Crëwyd y cynllun gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, rhan o Weithrediaeth GIG Cymru.
Bydd y Weithrediaeth yn goruchwylio llywodraethu a gweithredu'r cynllun, gydag adroddiadau blynyddol ar ran GIG Cymru yn cael eu darparu i Lywodraeth Cymru.