Neidio i'r prif gynnwy

Gwiriadau iechyd hanfodol

Mae cadw golwg ar eich diabetes yn golygu cael darlun clir o’ch iechyd a chanfod unrhyw broblemau’n gynnar. 

Dyna pam y dylai pob person sy'n byw gyda diabetes dderbyn naw gwiriad iechyd hanfodol bob blwyddyn.

Mae'r gwiriadau syml ond pwysig hyn yn eich helpu i ddeall sut mae eich diabetes yn cael ei reoli ac yn tynnu sylw at ble y gallai fod angen cymorth ychwanegol.

Maen nhw’n cynnwys y meysydd allweddol canlynol: 

  • HbA1c
  • Pwysedd gwaed
  • Colesterol
  • Archwiliadau arennau (dau brawf: Gwaed ac Wrin)
  • Traed
  • Llygaid
  • Pwysau/BMI
  • Os ydych chi'n ysmygu

Mae'r rhain i gyd yn bwysig i'ch cadw'n iach.