Neidio i'r prif gynnwy

Rydw i newydd gael diagnosis o ddiabetes

Mae diagnosis newydd o ddiabetes yn gallu bod yn llethol, ac mae’n hollol normal bod â llawer o gwestiynau. 

Bydd eich tîm gofal iechyd yn eich helpu i ddeall beth mae eich diagnosis yn ei olygu i chi yn bersonol, gan gynnwys sut y gall bwyd, gweithgarwch, meddyginiaeth, a threfn ddyddiol effeithio ar eich lefelau glwcos. Byddan nhw’n rhoi arweiniad ynghylch sut y bydd newid eich ffordd o fyw’n helpu, ynghyd ag opsiynau triniaeth os oes angen.

Mae dysgu sut i reoli diabetes yn broses raddol, ac mae digon o wybodaeth ddibynadwy, cyfleoedd addysgu ac adnoddau ar gael i sicrhau eich bod yn teimlo’n wybodus ac yn dawel eich meddwl. Gyda chefnogaeth ac ychydig o amser, byddwch yn dechrau magu hyder wrth reoli'ch cyflwr o ddydd i ddydd.