Mae'r Rhwydwaith Gweithredu ar gyfer Cyflyrau Fasgwlaidd yn rhan o GIG Cymru. Rydym yn helpu pobl yng Nghymru a allai ddatblygu clefydau fasgwlaidd, neu sydd eisoes wedi gwneud hynny. Problemau gyda'r pibellau gwaed, fel rhydwelïau a gwythiennau, yw'r rhain. Gallant achosi cyflyrau difrifol, gan gynnwys strôc, wlserau yn y goes, madredd, a hyd yn oed farwolaeth sydyn os bydd un o’r rhydwelïau mawr yn byrstio oherwydd anewrysm.
Rydym yn gweithio gyda meddygon, ysbytai a chymunedau lleol i sicrhau bod gofal yn ddiogel, yn gyflym ac yn deg i bawb. Mae ein gwaith hefyd yn ategu cynlluniau iechyd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cyngor newydd ar sut i drin clefyd fasgwlaidd, strôc, a phroblemau gyda'r galon.
Mae GIG Cymru yn cynnwys saith bwrdd iechyd lleol a thri ymddiriedolaeth y GIG. Mae pob bwrdd yn gyfrifol am gynllunio a darparu gofal iechyd yn ei ardal.
Strwythur byrddau iechyd: Map o fyrddau iechyd yng Nghymru (pdf).