Neidio i'r prif gynnwy

Rhyw, perthnasoedd a ffrwythlondeb

Gall byw gyda diabetes ddylanwadu ar sawl rhan o fywyd, gan gynnwys rhyw, perthnasoedd ac weithiau ffrwythlondeb. Gall y rhan fwyaf o bobl fwynhau profiadau iach, boddhaus ym mhob un o'r tri, ac mae cymorth ar gael os oes angen.

Gall deimlo’n anodd trafod y pynciau hyn ar brydiau. Maen nhw’n bwysig ac mae llawer o bobl yn gweld budd o ddeall sut mae diabetes yn gallu chwarae rhan.

Gall diabetes effeithio ar lesiant rhywiol trwy newidiadau mewn glwcos yn y gwaed, hormonau, nerfau ac iechyd emosiynol, a all ddylanwadu ar awydd neu deimladau cadarnhaol o safbwynt agosatrwydd. Mae hyn yn gyffredin, ac mae cefnogaeth ar gael. Gall cyfathrebu a dealltwriaeth dda ei gwneud yn haws i reoli diabetes o fewn perthnasoedd, ac mae partneriaid yn aml yn chwarae rhan bwysig o safbwynt cymorth o ddydd i ddydd. Gall diabetes effeithio ar ffrwythlondeb o bryd i’w gilydd, ac mae cadw lefelau glwcos yn y gwaed cystal â phosibl, ynghyd â dewisiadau ffordd o fyw iach a chynllunio’n gynnar yn gallu gwella canlyniadau.

Mae'r rhan fwyaf o fathau o atal cenhedlu yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o bobl â diabetes:

Mae'r adran hon yn cynnig gwybodaeth glir, awgrymiadau ymarferol ac adnoddau i'ch helpu i deimlo'n wybodus, ac i gynnig cefnogaeth a hyder.