Cynllunio beichiogrwydd, rheoli diabetes pan fyddwch chi'n feichiog ac ar ôl i'ch babi gael ei eni
Mae beichiogrwydd yn gyfnod cyffrous, ac os ydych chi’n byw gyda diabetes, mae’n hollol naturiol i fod â chwestiynau ychwanegol am sut i gadw eich hun a’ch babi’n iach.
Os yn bosibl, mae’n ddelfrydol cynllunio eich beichiogrwydd, a gall eich tîm gofal iechyd helpu gyda hyn. Byddan nhw’n eich helpu i sicrhau bod eich lefelau glwcos o fewn yr ystod darged, i gymryd dos uwch o asid ffolig na’r arfer yn ystod beichiogrwydd (mae angen presgripsiwn ar gyfer hwn yn hytrach na’i brynu), ac i stopio unrhyw feddyginiaethau a allai fod yn niweidiol yn ystod beichiogrwydd.
Dydy pob beichiogrwydd ddim wedi'i gynllunio ac, yn yr achos hwn, rhowch wybod i'ch tîm gofal iechyd cyn gynted â phosibl os ydych chi'n feichiog.
Trwy gydol beichiogrwydd byddwch yn derbyn cefnogaeth agos gan y timau mamolaeth a diabetes i’ch helpu i reoli eich lefelau glwcos gwaed gan fod rhain yn gallu newid wrth i’r beichiogrwydd barhau. Gall hyn olygu newid mewn meddyginiaeth, bwyd, gweithgarwch ac arferion dyddiol. Bydd y gefnogaeth hon yn parhau hyd at yr enedigaeth ac ar ôl i'r babi gael ei eni.