Neidio i'r prif gynnwy

Cynllunio beichiogrwydd

Os ydych chi’n ystyried cael babi, mae’n syniad da dechrau cynllunio’n gynnar, yn enwedig os ydych chi’n byw gyda diabetes.

Gall paratoi ymlaen llaw eich helpu i deimlo’n hyderus a rhoi’r dechrau gorau posibl i’ch babi. Y prif nod cyn ac yn ystod beichiogrwydd yw cadw eich lefelau glwcos yn y gwaed o fewn ystod iach, gan fod hyn yn lleihau'r risg o gymhlethdodau i chi a'ch babi.

Efallai y bydd angen cymorth ar fenywod sydd â diabetes math 1 i addasu dosau inswlin, defnyddio pwmp dolen gaeedig hybrid, atal hypos, a defnyddio monitorau glwcos parhaus er mwyn cadw o fewn ystodau targed.

Ar gyfer menywod sydd â diabetes math 2, bydd eich tîm diabetes yn adolygu eich meddyginiaeth bresennol, gan nad yw rhai tabledi yn cael eu hargymell yn ystod beichiogrwydd ac efallai y bydd angen eu newid.

Dylai pob menyw sy'n cynllunio beichiogrwydd gymryd asid ffolig (5 mg) bob dydd, yn ddelfrydol gan ddechrau o leiaf dri mis cyn beichiogi. Mae angen presgripsiwn ar gyfer hwn. Bydd eich tîm hefyd yn gwirio eich llygaid, arennau, pwysedd gwaed, ac unrhyw feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd.

Fydd dim rhaid i chi reoli hyn ar eich pen eich hun - bydd eich tîm gofal iechyd yn gweithio’n agos gyda chi i greu cynllun wedi’i bersonoli, ac i ateb cwestiynau.