30 Mawrth 2026
Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Diogelwch Cleifion Cenedlaethol 2026-2031.
Drwy ganolbwyntio ar wrando, arweinyddiaeth a dysgu, bydd y cynllun pum mlynedd yn arwain ac yn sbarduno gwelliannau i ddiogelwch cleifion ledled Cymru, gan leihau niwed y gellir ei osgoi ac adeiladu diwylliant lle mae dysgu a gwella wrth wraidd popeth y mae'r GIG yn ei wneud.
Am y tro cyntaf yng Nghymru, mae'r cynllun yn darparu fframwaith cenedlaethol cydlynol ar gyfer gwella diogelwch cleifion. Ynghyd â Chymru Iachach a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, bydd yn symud ymdrechion y tu hwnt i fentrau ynysig a thuag at ddull cyson o wneud gofal yn fwy diogel.
Dywedodd Dr Chris Clayton, Rheolwr Gyfarwyddwr Perfformiad a Gwella GIG Cymru: “Mae staff ar draws GIG Cymru yn darparu gofal gyda’r tosturi a’r proffesiynoldeb mwyaf. Fodd bynnag, mewn system heriol sy’n aml yn gymhleth, mae bob amser risg o niwed y gellir ei osgoi.
“Diogelwch cleifion yw sylfaen gofal o ansawdd uchel ac ymddiriedaeth yn y GIG, ond mae ymdrechion i’w wella yn aml wedi bod mewn seilo ac yn adweithiol.” Bydd Cynllun Diogelwch Cleifion Cenedlaethol GIG Cymru 2026 – 2031 yn cau’r bwlch hwnnw, ac yn darparu cam beiddgar ac angenrheidiol tuag at ddull system gyfan o ymgorffori diogelwch fel blaenoriaeth graidd. Bydd hyn yn gwneud gofal yn fwy diogel i bawb yng Nghymru.”
Mae'r cynllun newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar syniadau cleifion a'r cyhoedd, sy’n sicrhau bod profiad bywyd yn llywio gwella diogelwch ar bob lefel. Bydd ei gyflawni yn cyfuno gweithredu cyflym pan fo blaenoriaethau brys, â gweithgaredd tymor hwy a gynlluniwyd ar y cyd â staff, cleifion a phartneriaid.
Bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn gweithredu'r cynllun ynghyd â sefydliadau cenedlaethol a systemau lleol, gan sicrhau bod gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau y gefnogaeth, yr arbenigedd a'r fframweithiau sydd eu hangen i gyflawni.
Ychwanegodd Dr Clayton: “Byddwn yn cydweithio’n agos â sefydliadau’r GIG a phartneriaid eraill ledled Cymru i wireddu’r cynllun hwn, gan ganolbwyntio ar wrando, arweinyddiaeth a dysgu.
“Yn ymarferol, mae hynny’n golygu gwneud gofal yng Nghymru yn fwy diogel drwy wrando ar gleifion, staff a phartneriaid, sicrhau arweinyddiaeth gref, ymgysylltiedig a gweladwy, a dysgu drwy wybodaeth, adborth a phrofiad amser real.”
Ochr yn ochr â sefydlu diogelwch cleifion fel blaenoriaeth hanfodol i bob rhan o'r GIG yng Nghymru, mae'r cynllun yn nodi chwe blaenoriaeth diogelwch clinigol cenedlaethol strategol ar gyfer ffocws penodol a nodwyd gan sefydliadau gofal iechyd a Llywodraeth Cymru:
Mae seithfed flaenoriaeth diogelwch clinigol genedlaethol strategol arall ynghylch diogelwch meddyginiaethau hefyd yn cael ei datblygu.
Bydd cynnydd o ran y cynllun yn cael ei fonitro drwy'r Fframwaith ar gyfer Canlyniadau o Ansawdd (QOF) ac adolygiadau rheolaidd, sy’n sicrhau tryloywder, dysgu a gwelliant parhaus. Bydd Fframwaith Llywodraethu Clinigol Cenedlaethol a Thîm Diogelwch Cleifion Cenedlaethol yn llywio ei gyflawni, yn gosod safonau, ac yn sicrhau atebolrwydd a chysylltedd ledled Cymru.
Darllenwch y Cynllun Diogelwch Cleifion Cenedlaethol 2026-2031, yma.