Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth newydd i hybu rhaglenni hunanreoli ledled Cymru sy'n cynnig 'achubiaeth'

Bydd partneriaeth newydd rhwng Perfformiad a Gwella GIG Cymru a Chomisiwn Bevan yn cefnogi mwy o bobl sy'n byw gyda chyflyrau hirdymor a'u gofalwyr i fyw bywydau iachach ac yn lleihau pwysau ar y GIG, drwy wella mynediad at gyrsiau hunanreoli.

Mae Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP) Cymru, sy’n rhan o’r swyddogaeth Perfformiad a Gwella, yn cynnig cyrsiau hunanreoli sy'n cefnogi pobl i gael yr hyder, yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i reoli cyflyrau gofal iechyd mewn partneriaeth â gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol proffesiynol. 

Bydd y bartneriaeth ddwy flynedd newydd gyda Chomisiwn Bevan, prif felin drafod iechyd a gofal annibynnol Cymru, yn edrych ar sut y gallai EPP Cymru weithio yn y dyfodol. Bydd yn archwilio ffyrdd o ehangu ei gyrhaeddiad, yn gweithio'n agosach gyda gwasanaethau eraill, ac yn gwneud mwy o wahaniaeth ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gobeithir y bydd y bartneriaeth yn galluogi mwy o bobl sy'n byw gyda chyflyrau hirdymor i gysylltu ag EPP Cymru. Pobl fel Alan Lawrie, o Fae Penrhyn, Conwy, a gofrestrodd i wneud cwrs Hunanreoli Diabetes Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP) Cymru ar ôl cael gwybod bod ganddo'r cyflwr yn 2023.

Mae Alan yn disgrifio ei ddiagnosis fel 'ysgytwad'. Trwy ymgymryd â'r cwrs llwyddodd i ostwng lefel y glwcos yn ei waed o 120 i 38. Mae wedi canmol cyrsiau hunanreoli fel 'achubiaeth'. Ar ôl canfod bod y rhaglen mor werthfawr, mae bellach yn gwirfoddoli fel tiwtor rhaglen i helpu pobl eraill.

Dywedodd Alan, cyn-gyfarwyddwr gofal sylfaenol: “Roedd y cwrs yn dipyn o sioc ac fe helpodd fi i fyfyrio ar arferion fel prynu caniau o coke neu yfed llawer o sudd oren a bwyta llawer o garbohydradau. Gall rhai o gymhlethdodau diabetes gynnwys colli braich neu goes, cael strôc neu brofi iechyd meddwl gwael iawn neu iselder. Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi deall y goblygiadau nes i mi gael diagnosis, ac roedd yn ysgytwad i'm teulu hefyd.”

Ers cwblhau'r cwrs, mae Alan wedi dod yn diwtor gwirfoddol achrededig er mwyn cefnogi pobl eraill. Ychwanegodd: “Fel tiwtor, mae’n wych gweld sut mae’r cyfranogwyr yn newid yn ystod y cwrs chwe wythnos. Maen nhw'n chwilio am achubiaeth, ac erbyn wythnos tri maen nhw'n gwneud ffrindiau ac yn dod yn fyw. Mae'r cyrsiau'n ymwneud ag ailystyried y sefyllfa, datrys problemau ac atgyfnerthu'r holl bethau y dylem fod yn eu gwneud - fel ymarfer corff, cael cynllun deiet ac ymdrin ag emosiynau gwahanol.”

Mae bron i hanner (48%) o bobl yng Nghymru yn byw gydag un neu fwy o gyflyrau hirdymor. Gall hyn arwain at orbryder, diffyg hyder, unigedd ac apwyntiadau iechyd niferus. Cynlluniwyd ystod o gyrsiau EPP Cymru i wella hunanofal, lleihau unigrwydd ac arwain at ganlyniadau iechyd gwell.

Dywedodd Christine Roach, Arweinydd Hunanreoli EPP Cymru: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Chomisiwn Bevan i nodi cyfleoedd newydd i archwilio, datblygu a thrawsnewid rhaglen EPP Cymru, a sicrhau ei bod yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol. 

“Ein nod yw ehangu a diogelu cynnig EPP Cymru at y dyfodol i GIG Cymru a diwydiant drwy wneud y mwyaf o’r sgiliau, yr asedau, y rhwydwaith a’r safbwynt annibynnol y mae Comisiwn Bevan yn eu cynnig. Bydd ei arbenigedd a'i safbwynt yn amhrisiadwy i'n hymdrechion ac rwy'n hyderus y gallwn, gyda'n gilydd, gyflawni canlyniadau rhyfeddol er budd pawb.”

Mae EPP Cymru wedi'i seilio ar yr angen brys am gefnogaeth gynaliadwy yn y gymuned, sy'n galluogi newid ymddygiad ac yn hyrwyddo gwasanaethau GIG cynaliadwy trwy waith atal a lleihau'r galw. Mae cyrsiau'n cynnwys hunanreoli ar gyfer cyflyrau cronig, poen parhaus, canser, iechyd esgyrn a HIV, yn ogystal â chefnogaeth i ofalwyr.

Mae Christine a Jules Godden, Rheolwr Hyfforddi, yn rhan o Garfan 9 Rhaglen Enghreifftiol Bevan. Cyflwynodd y ddwy eu prosiect, 'Adeiladu Cymunedau Gwydn a Dyfeisgar', mewn arddangosfa arbennig yn y Senedd yn gynharach eleni. Nod eu prosiect yw sefydlu Gwasanaeth Cefnogaeth gan Gymheiriaid Cenedlaethol. Disgrifiodd un claf y cynllun peilot fel 'achubiaeth' a dywedodd 97% o’r cyfranogwyr eu bod yn ystyried y gefnogaeth gan gymheiriaid yn 'hynod effeithiol'.

Mae tiwtoriaid EPP gwirfoddol yn cael hyfforddiant ac adnoddau helaeth i gyflwyno cyrsiau ar-lein ac yn y gymuned, ac yn cael eu cefnogi'n llawn gan gyd-diwtor ym mhob sesiwn. Gallwch ddysgu rhagor am EPP Cymru yma.

Gallwch hefyd ddarllen rhagor am brosiect Enghreifftiol Bevan EPP Cymru Chris a Jules yma.