Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Gweithredu Clinigol Iechyd Esgyrn

Ffurfiwyd RGC Iechyd Esgyrn ym mis Mai 2025. Mae’r tîm sy’n cael ei arwain gan Dr Inder Singh, Arweinydd Clinigol Iechyd Esgyrn, yn gweithio gyda’n gilydd i wella cyflawniad gweithredol nodau strategol cenedlaethol.  

Nod RGC Iechyd Esgyrn yw galluogi cyflawni'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Osteoporosis ac Iechyd Esgyrn, y Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Cyhyrysgerbydol  a'r Fframwaith ar gyfer Iechyd Cyhyrysgerbydol. 

Dyma brif amcanion y RhGC:
  • Diffinio a chytuno ar gynllun gwaith blynyddol, a fydd yn cynnwys amcanion sy'n ateb y nodau a'r cwmpas uchod
  • Datblygu ffynonellau data cyson a pherthnasol, adolygu sylfeini tystiolaeth perthnasol a nodi llwybrau perthnasol
  • Darparu rhestr o lwybrau delfrydol cenedlaethol â blaenoriaeth y bydd y Rhwydwaith Gweithredu Clinigol yn eu hystyried dros gyfnod o dair blynedd, pum mlynedd a deng mlynedd. 

I gael manylion llawn am nodau, cwmpas ac adrodd ar y RhGC, gweler Cylch Gorchwyl Rhwydwaith Gweithredu Clinigol Iechyd Esgyrn.

Aelodau RhGC Iechyd Esgyrn

Mae aelodau RGC Iechyd Esgyrn yn bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau Iechyd Esgyrn ledled Cymru neu gyda nhw ac yn cynnwys: 

  • Arweinydd clinigol Gwasanaeth Cyswllt Toriadau (GCT) o bob bwrdd iechyd:
    • BIP Aneurin Bevan - Dr Inder Singh a Dr Non Pugh
    • BIP Betsi Cadwaladr – Dr Swapna Alexander
    • BIP Caerdydd a'r Fro – Dr Jack Boylan a Dr Jane Turton
    • BIP Cwm Taf Morgannwg – Dr Raja Biswas
    • BIP Hywel Dda – Dr Will Backen
    • BIA Powys - Dr Sam Abraham
    • BIP Bae Abertawe – Dr Ka Ng
  • Cynrychiolydd Radioleg
  • Arweinydd Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
  • Arweinydd Clinigol Pediatrig
  • Cynrychiolydd o'r Rhaglen Trawsnewid Chwe Nod
  • Nyrs Glinigol Arbenigol
  • Cynrychiolydd Fferyllfa
  • Cynrychiolydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
  • Cynrychiolydd o Grŵp Profiad Bywyd sy’n Weithiwr Proffesiynol 
  • Cynrychiolydd o’r Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol
  • Cynrychiolydd o Berfformiad a Gwella GIG Cymru.