Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta'n iach

Mae bwyta’n iach yn chwarae rhan bwysig wrth reoli diabetes, a gall hyd yn oed newidiadau bach, cynaliadwy wneud gwahaniaeth gwirioneddol. 

Does dim un 'diet diabetes' - mae'n ymwneud â dod o hyd i ffordd o fwyta sy'n teimlo'n iawn i chi, yn cefnogi eich llesiant, ac yn gweddu’n gyfforddus i’ch ffordd o fyw.

Mae'r rhain yn ddolenni defnyddiol i gefnogi bwyta'n iach:

Mae'r egwyddorion sylfaenol yn debyg ar gyfer diabetes math 1 a math 2, fel mwynhau prydau cytbwys, deall maint dognau, a dewis bwydydd sy'n helpu i gadw'ch lefelau glwcos yn sefydlog. Ceir rhywfaint o wahaniaethau gan ddibynnu a oes angen i chi gymryd meddyginiaeth neu inswlin.  

Er enghraifft, mae pobl gyda diabetes math 1 yn aml yn meddwl am sut mae bwyd yn effeithio ar eu dosau inswlin, tra bod pobl gyda diabetes math 2 yn canolbwyntio mwy ar brydau bwyd sy’n cefnogi rheoli pwysau neu wella sensitifrwydd inswlin.

Bydd mynychu sesiynau grŵp Diabetes neu gymorth digidol yn eich helpu i ddeall sut beth yw bwyta’n iach i chi’n bersonol a sut i deilwra cyngor cyffredinol i’ch anghenion chi eich hun. Ceir gwahanol sesiynau a chymorth digidol i weddu i wahanol anghenion. Gall eich tîm gofal iechyd eich cefnogi i gael mynediad i'r rhain.