Wrth i chi fynd yn hŷn, gall eich gofal diabetes fod ychydig yn wahanol. Gall eich arferion, archwaeth, symudedd ac anghenion iechyd newid dros amser, a gall eich cynllun diabetes newid gyda chi. Mae'r adran hon yn cynnig gwybodaeth ymarferol, gadarnhaol i chi, neu'r rhai sy'n eich cefnogi, i'ch helpu i gadw'n ddiogel, yn gyfforddus ac yn hyderus.