Gall ffitio diabetes o gwmpas popeth arall rydych chi'n ei reoli, gwaith, teulu, perthnasoedd, a'ch llesiant eich hun, fod yn her. P'un ai eich bod wedi byw gyda diabetes ers blynyddoedd lawer neu'n addasu i ddiagnosis diweddar, mae'r cam hwn yn ymwneud â dod o hyd i drefn realistig sy'n cefnogi eich iechyd heb orlethu eich bywyd bob dydd.
Yma fe welwch chi ganllawiau ar gadw cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, deall archwiliadau iechyd hirdymor, a rheoli newidiadau mawr mewn bywyd fel dod yn rhieni. Mae yna hefyd adnoddau i gefnogi eich llesiant, gan gynnwys MyDESMOND ar gyfer diabetes math 2, gwybodaeth am reoli pwysau i’r rhai sydd ei hangen, a’r adnodd Getting Active with Type 1.
Wrth i fywyd newid, efallai y bydd eich anghenion diabetes hefyd yn newid, ac mae hynny i’w ddisgwyl. Gyda gwybodaeth glir, adnoddau cefnogol, a chymryd amser i ddysgu am eich iechyd, gallwch deimlo’n fwy hyderus wrth wneud dewisiadau sy’n addas i chi, a helpu i warchod eich iechyd hirdymor ar bob cam mewn bywyd fel oedolyn.