Gall deall pwy sy'n ymwneud â gofal diabetes eich helpu i wybod ble i fynd am gymorth a beth i'w ddisgwyl o archwiliadau arferol. Mae amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gweithio ledled Cymru i gefnogi pobl sy’n byw gyda diabetes.
Meddygon teulu ac ymarferwyr diabetes (fel nyrsys a fferyllwyr) yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gofal diabetes o ddydd i ddydd i'r rhan fwyaf o bobl. Maen nhw’n cefnogi gydag adolygiadau rheolaidd, profion gwaed arferol, gwirio meddyginiaeth a phresgripsiynau, a phryderon iechyd cyffredinol. Mae'r rhan fwyaf o oedolion yn gweld eu tîm practis meddyg teulu ar gyfer gofal diabetes parhaus, hyd yn oed os ydyn nhw hefyd yn mynychu clinigau ysbyty.
I bobl y mae eu gofal diabetes yn cael ei ddarparu yn yr ysbyti’n bennaf, mae'r meddyg teulu yn dal i chwarae rhan bwysig. Maen nhw’n helpu gydag anghenion iechyd ehangach, presgripsiynau rheolaidd, imiwneiddiadau, ac unrhyw broblemau sy'n codi rhwng apwyntiadau arbenigol. Mae'r ddau dîm yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi eich iechyd cyffredinol.
Nyrsys practis a chynorthwywyr iechyd sy’n darparu llawer o’r cyngor ymarferol yn eich meddygfa leol. Maen nhw’n helpu gydag adolygiadau blynyddol, gwiriadau pwysedd gwaed, gwiriadau traed, trafodaethau ffordd o fyw, dechrau triniaeth ar gyfer diabetes a monitro, a chadw llygad ar ddatblygiad dros amser. Maen nhw’n rhan o’r tîm y byddwch yn ei weld yn y practis, yn hytrach nag mewn clinigau yn yr ysbyty.
Mae Nyrsys Diabetes Arbenigol yn gweithio mewn timau cymunedol neu ysbyty ac yn cefnogi pobl sydd angen mewnbwn mwy arbenigol. Gallan nhw helpu gydag anghenion mwy cymhleth, deall technoleg diabetes, ac adolygu cynlluniau triniaeth. Bydd eich practis yn cysylltu â nhw os oes angen.
Mae dietegwyr yn cynnig arweiniad ar fwyd, maeth, a datblygu arferion iach sy'n cyd-fynd â bywyd bob dydd. Maen nhw’n cefnogi pobl â phob math o ddiabetes a gallan nhw helpu gyda phynciau fel cynllunio prydau bwyd, rheoli pwysau, a deall perthynas dewisiadau bwyd gyda glwcos yn y gwaed.
Mewn llawer o ardaloedd, mae dietegwyr hefyd yn cynnal sesiynau addysg grŵp sydd wedi'u cynllunio i helpu pobl i ddysgu mwy am reoli diabetes. Gallai’r rhaglenni hyn fod yn ddefnyddiol er mwyn cwrdd ag eraill sydd mewn sefyllfa debyg, ac maen nhw’n ffordd o fagu hyder a gofyn cwestiynau.
Mae podiatryddion yn helpu i gadw traed yn iach a nodi unrhyw broblemau yn gynnar. Maen nhw’n arbenigwyr sy’n rheoli problemau megis croen caled a chyrn a chadw golwg am unrhyw newid o ran teimlad. Mae gofal traed da yn rhan bwysig o iechyd diabetes hirdymor.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael archwiliadau traed rheolaidd yn eu meddygfa fel rhan o’u hadolygiad diabetes rheolaidd. Os codir unrhyw bryderon, neu os oes angen mwy o gymorth arbenigol arnoch, efallai y cewch eich cyfeirio at bodiatrydd am asesiad neu ofal pellach.
Efallai y byddwch yn dal i glywed y term ciropodydd, sef enw hŷn ar yr un proffesiwn, ac mae’r ddau derm yn cael eu defnyddio ar adegau.
Cynigir sgrinio llygaid diabetig yn rheolaidd i gadw golwg am arwyddion cynnar o newidiadau yng nghefn y llygad. Mae sgrinio yn helpu i nodi problemau cyn i symptomau ymddangos, felly gellir monitro neu drin unrhyw newidiadau yn gynnar os oes angen. Mae'n rhan arferol o gadw'n iach gyda diabetes. Cynigir sgrinio o'r adeg pan fyddwch yn cael diagnosis (neu o 12 oed i blant a phobl ifanc). Gan ddibynnu ar eich canlyniadau, efallai y cewch eich gwahodd bob blwyddyn neu bob dwy flynedd. Yn ystod beichiogrwydd, cynigir sgrinio yn amlach oherwydd gall y risg o newidiadau llygaid diabetig gynyddu.
Mae lleoliadau sgrinio’n amrywio, felly gwiriwch eich llythyr apwyntiad bob amser i weld ble a phryd i fynychu ac aildrefnwch unrhyw apwyntiadau ymlaen llaw os na allwch chi fod yn bresennol. Os defnyddir diferion llygaid i ehangu cannwyll y llygad a’ch bod yn gyrru, bydd angen i chi drefnu cludiant i fynd adref, gan na fyddwch yn gallu gyrru ar ôl y driniaeth nes i’ch golwg ddychwelyd i’r arfer. Byddwch chi a'ch practis meddyg teulu yn derbyn llythyr gyda'ch canlyniadau ychydig wythnosau yn ddiweddarach.
Mae optegwyr yn cynnal profion golwg arferol, yn gwirio'ch golwg, ac yn chwilio am gyflyrau llygaid cyffredinol fel cataractau neu glawcoma. Maen nhw hefyd yn cynghori ar sbectol, lensys cyffwrdd, ac iechyd llygaid bob dydd. Mae profion golwg gan optegydd yn wahanol i sgrinio llygaid diabetig, mae'r ddau’n bwysig am wahanol resymau, ac nid yw un yn disodli'r llall.
Os ydych yn byw gyda diabetes, mae gennych hawl i brofion golwg y GIG am ddim gan optegydd.
Mae fferyllfeydd yn ffynhonnell hygyrch o gymorth bob dydd. Gall fferyllwyr gynnig cyngor ar reoli meddyginiaethau, deall presgripsiynau, a defnyddio dyfeisiau fel mesuryddion glwcos neu nodwyddau pin. Mae llawer o fferyllfeydd hefyd yn darparu gwasanaethau fel gwirio pwysedd gwaed, cymorth i roi’r gorau i ysmygu, a chyngor iechyd cyffredinol. Cofiwch, ar gyfer mân gyflyrau iechyd fel annwyd, eich fferyllwyr yw eich pwynt cyswllt cyntaf gorau.
Mae archwiliadau deintyddol rheolaidd yn rhan bwysig o gadw'n iach gyda diabetes. Mae deintyddion yn helpu i ofalu am eich dannedd a'ch deintgig, cadw golwg am arwyddion cynnar o glefyd y deintgig, a chynnig cyngor ar gadw'ch ceg yn iach. Mae ymweliadau deintyddol arferol yn helpu i nodi unrhyw broblemau yn gynnar.
Mae pobl sydd â diabetes yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd deintgig oherwydd gall glwcos gwaed uchel gynyddu llid yn y deintgig a'i gwneud hi'n haws i blac gronni. Gall problemau deintgig hefyd wneud lefelau glwcos yn y gwaed yn anoddach i'w rheoli, felly mae gofalu am eich ceg yn rhan bwysig o reoli diabetes.
Mae'r rolau hyn yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi eich iechyd cyffredinol. Gall gwybod pwy sy'n gwneud beth eich helpu i deimlo'n fwy hyderus mewn apwyntiadau, deall eich archwiliadau arferol, a gwybod ble i chwilio am y math cywir o gefnogaeth.