Awgrymiadau ar gyfer symud mwy a chadw’n heini a sut mae hyn yn helpu i reoli diabetes
Mae cadw i symud yn rhan bwysig o fyw’n dda gyda diabetes ac mae’n chwarae rhan allweddol ochr yn ochr â bwyta'n iach, meddyginiaeth, cwsg a rheoli straen.
Mae symud yn rheolaidd yn helpu eich corff i ddefnyddio inswlin yn fwy effeithiol, yn cefnogi lefelau glwcos mwy sefydlog yn y gwaed, ac yn gallu gwella llesiant corfforol a meddyliol cyffredinol.
Boed hynny’n gerdded bob dydd, ymarfer corff strwythuredig, neu wneud lle ar gyfer mwy o symud yn eich arferion dyddiol, mae bod yn egnïol yn llesol ar gyfer pob math o ddiabetes. Gall hyd yn oed camau bach, cyraeddadwy fel ymestyn, beicio ysgafn, neu ddefnyddio’r grisiau wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Fel rhan o ffordd o fyw cytbwys sy'n cynnwys canllawiau diet a maeth, cefnogaeth gyda theithio, ac awgrymiadau ar gyfer cadw'n heini o ddydd i ddydd, bydd yr adran hon yn eich helpu i ddeall sut i symud yn ddiogel ac yn hyderus gyda diabetes.
Mae man cychwyn pawb yn wahanol, ond mae pob gweithgarwch yn cyfrif tuag at fyw’n dda gyda diabetes.
Math 1 a 2
Math 1
Math 2
Adnoddau mewn gwahanol ieithoedd
Efallai y byddai'n well gennych chi adnoddau mewn ieithoedd eraill:
Adnoddau Diabetes UK mewn gwahanol ieithoedd
Cyngor yn ystod Ramadan:
Mae cefnogaeth ar gael i bobl sydd â diabetes yn ystod Ramadan. Efallai y bydd angen rhai newidiadau i'ch meddyginiaeth a'ch profion yn ystod Ramadan a bydd eich tîm gofal iechyd yn helpu gyda hyn. Bydd y dolenni canlynol yn eich cyfeirio at wybodaeth ddibynadwy.
https://www.diabetes.org.uk/about-diabetes/looking-after-diabetes/ramadan
Mae'r adnodd hwn ar gael i'w archebu a'i lawrlwytho yn Saesneg, Arabeg, Bengaleg, Gwjarati ac Wrdw i'w rannu gyda ffrindiau neu deulu.
https://trenddiabetes.online/wp-content/uploads/2024/01/A5_Ramadan_TREND.pdf