Neidio i'r prif gynnwy

Teithio a gwyliau

 

Cyngor ynghylch cynllunio gwyliau a theithiau gyda diabetes

Gydag ychydig o waith paratoi, does dim rhaid i ddiabetes eich atal rhag mwynhau eich amser i ffwrdd neu deithio. Gall meddwl ymlaen llaw am feddyginiaeth, cyflenwadau, a sut y gallai teithio effeithio ar eich trefn eich helpu i deimlo'n hyderus ac yn barod ar gyfer yr antur. 

Mae’n syniad da i bacio mwy o gyflenwadau diabetes na fyddai angen arnoch fel arfer, a’u rhoi mewn gwahanol fagiau llaw rhag i unrhyw beth fynd ar goll. 

Os ydych chi'n defnyddio inswlin, mae'n bwysig ei gadw ar y tymheredd cywir, yn enwedig mewn tywydd poeth. Ni ddylid byth rhoi inswlin yn yr howld.

Gall newidiadau amser hefyd effeithio ar eich trefn ddyddiol, felly gall cynllunio sut y byddwch yn rheoli prydau bwyd, monitro a meddyginiaeth wneud pethau’n haws. 

Mae yswiriant teithio sy’n cynnwys diabetes yn hanfodol, a dylech gario llythyr gan eich tîm gofal iechyd bob amser sy’n nodi eich meddyginiaeth, offer monitro a phigiadau at ddibenion diogelwch yn y meysydd awyr.

Gall pobl ifanc hefyd ddod o hyd i arweiniad defnyddiol drwy ein hadnodd SEREN Connect, gydag awgrymiadau ar deithio'n ddiogel ac yn annibynnol a rheoli diabetes yn ystod gwyliau. 

Ble bynnag rydych chi’n mynd, mae rhywfaint o waith paratoi yn mynd yn bell, er mwyn i chi allu ymlacio, mwynhau eich taith a gwneud y gorau o’ch amser i ffwrdd. 

 

Cyngor i'ch helpu i ofalu am eich traed pan fyddwch ar wyliau

Pan fyddwch ar wyliau, mae eich trefn ddyddiol a’ch amgylchedd yn newid ac efallai y byddwch yn symud mwy nag arfer, a all olygu mwy o risg o ddatblygu problemau ar eich traed a all fynd yn ddifrifol.

  • Gwiriwch eich traed yn rheolaidd: edrychwch ar eich traed yn ddyddiol i chwilio am unrhyw bothelli, toriadau neu arwyddion o haint megis chwydd, gwres neu gochni. Os byddwch yn canfod pothell, toriad neu grafiad ar groen eich traed, defnyddiwch ddresin di-haint i’w orchuddio. Peidiwch â byrstio pothelli.
  • Gwisgwch esgidiau priodol: Peidiwch â cherdded yn droednoeth. Gwisgwch esgidiau bob amser, hyd yn oed ar y traeth. Gall y tywod fod yn gynnes iawn ac efallai y byddwch chi'n llosgi'ch traed heb sylweddoli. Os byddwch chi’n mynd i’r môr, gwisgwch esgidiau i warchod eich traed. Peidiwch â gwisgo sandalau ‘fflip fflop’ gan y gallai’r rhain achos pothelli rhwng bysedd eich traed. Os ydych wedi cael esgidiau ar bresgripsiwn, peidiwch â gwisgo unrhyw esgidiau eraill yn ystod eich gwyliau (heblaw am pan fyddwch chi yn y môr).
  • Cadwch eich croen wedi’i hydradu ac wedi’i leithio: Golchwch eich traed bob dydd mewn dŵr cynnes a defnyddiwch hufen lleithio i gadw'ch croen wedi'i hydradu ond peidiwch â’i ddefnyddio rhwng bysedd eich traed.
  • Gwarchod eich traed: Defnyddiwch eli haul ffactor uchel (ffactor 30 neu uwch) ar eich traed neu eu cadw dan orchudd i atal llosg haul.

Am ragor o wybodaeth gweler Holiday Feet (Saesneg yn unig).