Meithrin eich dealltwriaeth o System Rheoli Ansawdd: Mae systemau rheoli ansawdd yn sefydledig mewn sectorau eraill, ond byddant yn newydd i lawer yn y GIG. Mae'n ffordd wahanol o feddwl a gweithredu, felly treuliwch amser yn mynd ati i ddeall beth yw'r system a beth sy'n ofynnol ganddi. Gweler fframwaith System Rheoli Ansawdd GIG Cymru ac archwiliwch astudiaethau achos Q mewn perthynas â systemau o'r fath.
Deall cwmpas eich gwaith: Mae sefydliadau gofal iechyd yn fawr ac yn gymhleth. Dylech ystyried treialu System Rheoli Ansawdd ar lefel cyfarwyddwr neu wasanaeth yn gyntaf, cyn ei defnyddio ar lefel sefydliadol.
Asesu eich man cychwyn: Nid oes yna un ffordd benodol o ddatblygu System Rheoli Ansawdd. Mae sefydliadau sy'n datblygu systemau rheoli ansawdd wedi cychwyn o fannau gwahanol. Adeiladwch ar gryfderau, heriau a seilwaith presennol eich sefydliad. Ymgysylltwch â grŵp eang i hunan-asesu eich dull gweithredu presennol o reoli ansawdd. Gweler: Matrics Aeddfedrwydd ar gyfer Systemau Rheoli Ansawdd.
Rhaid i arweinwyr nodi'r weledigaeth, y cyfeiriad a'r diwylliant ar gyfer System Rheoli Ansawdd: Dylai eich strategaeth gysylltu â gwaith bob dydd ac amlinellu'r adnoddau a'r sgiliau sy'n ofynnol i'w chyflawni. Heb ymrwymiad hirdymor yr arweinwyr i'r gwaith o ddatblygu System Rheoli Ansawdd, byddai'n anodd gwneud cynnydd.
Diffinio ansawdd ar gyfer eich sefydliad: Yn GIG Cymru, mae'r ddyletswydd ansawdd yn diffinio ansawdd fel 'diwallu anghenion y boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu mewn modd parhaus, dibynadwy a chynaliadwy'. Sut y caiff hyn ei drosi yn eich sefydliad chi? Bydd deall sut y mae eich Bwrdd yn diffinio ansawdd mewn perthynas â chwsmeriaid a rhanddeiliaid eich sefydliad yn eich helpu i gysoni eich System Rheoli Ansawdd â'r genhadaeth drosfwaol.
Mesur llwyddiant: I gychwyn, dylai hyn ganolbwyntio'n bennaf ar fesurau'r prosesau, megis sut yr ydych wedi datblygu gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â systemau rheoli ansawdd, neu sut yr ydych wedi meithrin cysylltedd ar draws yr agweddau ar y system. Dylech hefyd ddechrau sefydlu mesurau llwyddiant hirdymor a fydd yn gofyn am safon uchel o werthuso sy'n gysylltiedig â chanlyniadau sefydliadol.
Sicrhau bod eich iaith yn addas: Mae'r iaith mewn perthynas â systemau rheoli ansawdd yn bwysig. Mae iddi elfennau technegol, ond gall gorddefnyddio iaith dechnegol deimlo'n estron i bobl. Dylech weithio gyda chyd-weithwyr, cleifion a defnyddwyr gwasanaethau i ddatblygu terminoleg ac iaith ystyrlon a rennir ar gyfer eich System Rheoli Ansawdd.
Gwirio p'un a oes System Rheoli Ansawdd yn cael ei defnyddio yn eich sefydliad yn barod: Efallai fod yna System Rheoli Ansawdd ffurfiol (a gefnogir yn aml gan safonau'r ISO) sy'n gweithredu mewn lleoliadau penodol yn eich sefydliad yn barod, megis ym meysydd radioleg, fferylliaeth neu ddyfeisiau meddygol. Gallai'r gwaith o ddefnyddio'r system yn y lleoliadau hyn fod yn wahanol i fframwaith System Rheoli Ansawdd GIG Cymru, sy'n disgrifio system weithredu ehangach ar gyfer sefydliad cyfan. Fodd bynnag, bydd nifer o'r egwyddorion yn debyg a dylech dynnu ar y profiad a'r arbenigedd hwn.
Meithrin dealltwriaeth o systemau rheoli ansawdd ymhlith yr holl staff: Canolbwyntiwch ar ddod â'r hanfodion yn fyw a sicrhau bod y staff yn deall eu rôl yn y System Rheoli Ansawdd. Gallai hyn gynnwys sesiynau hyfforddiant byr, defnyddio iaith System Rheoli Ansawdd mewn sgyrsiau bob dydd megis ar ddiwedd shifft, datblygu cynnwys ar gyfer y wefan fewnol, neu gofnodi a rhannu gweithgarwch llwyddiannus mewn perthynas â'r system.
Pa beth bynnag a wnewch, dechreuwch arni: Mae'r hyn y mae GIG Cymru wedi'i ddysgu o weithredu System Rheoli Ansawdd yn dangos y dylech ddysgu a mireinio wrth i chi fynd ymlaen. Gall agweddau 'digon da' gael eu hailadrodd dros amser. Y peth pwysicaf yw dechrau meddwl a gweithredu mewn modd sy'n ystyriol o System Rheoli Ansawdd.