Lle bo problemau ansawdd yn cael eu nodi na allant gael eu datrys o fewn y prosesau rheoli ansawdd, mae angen dull gwella ansawdd sy'n fwy penodol a phwrpasol.
I nifer o sefydliadau, y broses gwella ansawdd fydd yr agwedd fwyaf sefydledig ar System Rheoli Ansawdd. Y gwahaniaeth yw sicrhau ei bod yn gysylltiedig â'r prif broblemau yr ydych yn eu hwynebu, a'i bod yn canolbwyntio arnynt, a hefyd yn gysylltiedig â'ch dibenion a'ch metrigau trosfwaol.
Mae gwelliannau wedi'u rheoli'n dda yn cynnwys:
- Defnyddio methodoleg safonol ar gyfer eich holl ymdrechion i wella
- Datblygu sgiliau gwella ar draws y sefydliad, o'r Bwrdd i'r rheng flaen, gydag arbenigwyr a all gefnogi
- Cynllunio a chyflawni gwelliannau mor agos i'r rheng flaen â phosibl trwy'r sawl sy'n ymwneud â'r gwaith o'u cyflawni: staff, cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd a gofalwyr
- Gallai fod angen i arweinwyr helpu i chwalu rhwystrau, yn ogystal â darparu arweiniad, nawdd a chydnabyddiaeth
- System ar gyfer nodi a dysgu o welliannau sydd wedi gweithio a rhai nad ydynt wedi gweithio.
Adnoddau ategol